Eich iechyd chi ydyw!
- Yfed yn synhwyrol
- Bwyta'n Iach
- Edrych ar ôl eich corff
- Edrych ar ôl eich meddwl
- Iechyd Merched - Sgrinio Bronnau a Phrofion Ceg y Groth
- Iechyd Merched - Y Menopos
- Iechyd Merched - Cancr Ofaraidd
- Iechyd Dynion - Problemau Prostad
- Iechyd Dynion - Hunanarchwilio'r Ceilliau
- Iechyd Dynion - Canser y Fron
- Gwaed yn Wrin
Y Menopos
Mae'r gair menopos yn golygu yn llythrennol ‘y cyfnod cyn ac ar ôl terfyn y mislif’. Mae'n rhan naturiol o'r broses heneiddio ac mae pob menyw sy’n cael mislif yn mynd drwy'r menopos ar ryw adeg yn ei bywyd, fel rheol rhwng 42 a 58 oed.
Gall y profiad o derfyn y mislif amrywio'n fawr o un fenyw i un arall. I rai, mae'n gwbl ddidrafferth. I eraill gall effeithiau corfforol a seicolegol y menopos fod yn drafferthus ac efallai y bydd angen cymorth meddygol i'w goresgyn.
Mae'r menopos yn digwydd pan fydd yr ofarïau yn rhoi'r gorau i ymateb i hormonau penodol o'r ymennydd, ac felly mae’r wyau’n rhoi'r gorau i aeddfedu'n rheolaidd. Mae gostyngiad yn y lefelau estrogen a phrogesteron (y ddau hormon rhyw benywaidd a gynhyrchir gan yr ofarïau). Y gostyngiad hwn mewn lefelau hormonau sy'n achosi symptomau’r menopos.
Mae'r menopos fel rheol yn digwydd yn raddol. Mae’r rhan fwyaf o fenywod yn darganfod bod eu cylch misol a llif y gwaed yn dod yn afreolaidd yn ystod yr ychydig flynyddoedd cyn eu mislif diwethaf. Gall gwaedu stopio hyd yn oed am ychydig fisoedd ac yna dechrau eto. Ystyrir bod menyw wedi mynd drwy'r menopos pan fydd blwyddyn wedi mynd heibio ers ei mislif diwethaf.
Ni wyddom pam fod y menopos yn cychwyn yn gynharach mewn rhai menywod nag eraill, ond credir bod ffactorau etifeddol yn chwarae rhan. Mae merched sy'n ysmygu, ar gyfartaledd, yn mynd drwy'r menopos ddwy flynedd yn gynnar. Mae llawdriniaeth sy'n cael gwared ar yr ofarïau yn achosi menopos ar unwaith. Pan fydd y menopos yn digwydd cyn 40 oed mae’n cael ei ystyried i fod yn menopos gynamserol, ac fel rheol bydd angen triniaeth feddygol.
Symptomau
Er nad yw rhai merched yn cael unrhyw symptomau o’r menopos, ar wahân i'w mislif yn dod i ben, mae’r rhan fwyaf o fenywod yn cael rhai symptomau eraill. Mae llawer o'r rhain yn gwella gydag amser:
- Chwiwiau poeth a chwysu yn y nos
- Blinder
- Newidiadau emosiynol, megis newid mewn hwyliau neu newid mewn diddordeb rhywiol
- Ymyriadau i’w cwsg (insomnia)
- Croen a gwallt sychach
- Mwy o flew yn tyfu ar yr wyneb a'r corff
- Gwayw a phoenau yn y cymalau
- Cur pen
- Crychguriadau'r galon (curiad calon cyflym, afreolaidd)
- Cosi cyffredinol
Gall symptomau eraill fod yn hirdymor neu waethygu gydag amser:
- Newidiadau i’r fagina - sychder, poen yn ystod cyfathrach rywiol, mwy o risg o heintiau
- Symptomau wrin – methu â dal rhag pasio dŵr, heintiau wrin yn amlach
Mae ymchwil wedi dangos yr ymddengys bod menywod sydd â ffrindiau agos a theulu, neu sydd mewn gwaith llawn amser, yn cael llai o symptomau. Yn ogystal, mae sut y mae menyw yn teimlo ynghylch cyrraedd y menopos yn gallu cael effaith ar ei phrofiad. Mae llawer o fenywod yn gweld y menopos fel digwyddiad cadarnhaol sy'n eu rhyddhau rhag cael mislif a'r risg o feichiogrwydd nas dymunwyd.
Risgiau iechyd a'r menopos: Gall y lleihad mewn lefelau oestrogen sy'n digwydd yn ystod y menopos arwain at effeithiau iechyd tymor hir.
- Colli dwysedd (density) esgyrn: gall yr esgyrn fynd yn frau a thorri’n haws (cyflwr a elwir yn Osteoporosis)
- Clefyd y galon, fel atherosglerosis. Gall brasterau aros yn y pibellau gwaed, sy'n cynyddu'r risg o drawiad ar y galon a strôc
- Pwysedd gwaed uwch
- Magu pwysau, sy'n cynyddu'r risg o broblemau cardiofasgwlaidd
- Lefelau colesterol uwch
- Gwendid llawr y pelfis: mae cyhyrau pelfig a'r cymalau yn dod yn wannach, a all arwain at lithriad y groth (pan fydd y groth yn disgyn i lawr i mewn i'r fagina)
Dewisiadau Triniaeth: Gall newidiadau i ffordd o fyw a thriniaeth feddygol helpu i leihau'r symptomau a risgiau iechyd y menopos. Bydd triniaeth yn amrywio o un fenyw i'r llall, gan ddibynnu ar ei phrofiad.
Os ydych chi am ddechrau trafodaeth gyda'ch rheolwr llinell am symptomau, efallai y bydd y ddogfen ganlynol yn fan cychwyn defnyddiol.
Safleoedd We Defnyddiol
Canllawiau ar y menopos a'r gweithle i rheolwyr a staff