Arian...
Mae nhw'n deud bod diogelwch yn costio arian! Ond yw system iechyd a diogelwch dda yn wirioneddol gostus?
Bob blwyddyn, mae damweiniau i weithwyr ac afiechyd gweithwyr yn costio swm a amcangyfrifir rhwng £3.9 biliwn a £7.8 biliwn i gyflogwyr ym Mhrydain, a £910 miliwn – £3,710 miliwn o hynny’n dod o niwed damweiniol i eiddo a chyfarpar.
Ar wahân i’r costau cyfreithiol posibl a allai fod ynghlwm wrth ddamweiniau ac afiechyd sy’n gysylltiedig â gwaith, y costau cudd sy’n gysylltiedig â dirprwyo dros staff absennol, recriwtio, hyfforddi ac effeithiau ar forâl y staff a’ch gweithgareddau beunyddiol sydd mewn gwirionedd yn llyncu amser a chyllid unrhyw sefydliad.
Yn aml, cymerir yn ganiataol y bydd yswiriant yn talu unrhyw golledion ariannol. Fodd bynnag, ar y cyfan, nid yw polisïau’n talu costau sy’n gysylltiedig â chynnal busnes o ddydd i ddydd, a gall y diffygion hyn fod yn syfrdanol:
- Mae costau heb eu hyswirio ddeg gwaith yn fwy na chost y premiymau yswiriant a delir. (Ffynhonnell: Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch)
- Mae colledion heb eu hyswirio yn deillio o ddamweiniau mewn cwmnïau llai yn cronni’n £315 ar gyfer pob gweithiwr, bob blwyddyn. (Ffynhonnell: Norwich Union Risk Services)
Ers cyflwyno'r Canllawiau Dedfrydu (Sentencing Guidelines: Health and Safety Offences, Corporate Manslaughter and Food Safety and Hygiene Offences) ym 2016 ar gyfer troseddau iechyd a diogelwch (ac un tebyg amgylcheddol) rydym wedi gweld amlder carchardai yn cynyddu ac mae'r dirwyon yn cynyddu ar raddfa frawychus. Gan adlewyrchu difrifoldeb y llywodraeth a'r llysoedd ar iechyd a diogelwch pobl. I'r Brifysgol mae dirwyon posib am droseddau iechyd a diogelwch yn amrywio o'r miloedd isel i dros £ 10m
“By improving our health and safety management, we’re protecting the health and safety of our employees, visitors to our sites and also our shareholders’ investments” – Don Coates, Prif Weithredwr, St Regis Paper Company, rhan o DS Smith PLC.
Yn ôl , gall busnesau fod ar eu helw’n sylweddol o weithredu trefn dda o ran iechyd a diogelwch. Ond mae’r neges yn glir. Nid yn unig y mae systemau iechyd a diogelwch da yn gwneud synnwyr o ran rheoli risg, fel na chewch chi na’r Brifysgol eich erlyn; maent hefyd yn fuddsoddiad cadarn yn eich pobl, a hynny’n gymorth wedyn i arwain at lewyrch.
Cysylltiadau:
- (AGID)