Ein Hanes
Mae gwasanaeth iechyd a diogelwch canolog ar sawl ffurf ac yn darparu amryw o swyddogaethau wedi bodoli yn y Brifysgol ers degawdau lawer. Yn hanesyddol, roedd y swyddogaethau diogelwch, radiolegol, anifeiliaid ac iechyd ar wahân ac yn cael eu harwain gan unigolion â llinellau adrodd amrywiol. Mae'r rhan fwyaf o'r swyddogaethau hyn bellach wedi'u dwyn ynghyd trwy'r tîm proffesiynol Iechyd a Diogelwch, o fewn y Gwasanaethau Campws; sydd hefyd yn cael eu hategu gan arbenigwyr mewn adrannau eraill.
Mae'r tîm iechyd a diogelwch (a Gwasanaethau Campws yn ei chyfanrwydd) yn ceisio bod yn rhagweithiol bob amser, gan ddarparu gwasanaeth cymorth ymarferol i helpu a chynghori ar bob agwedd ar iechyd a diogelwch, boed y rhain yn alwedigaethol ai peidio.