Rhoi Gwybod am Ddamwain neu Ddigwyddiad
Sylwer: Un o egwyddorion craidd trefn adrodd damweiniau a digwyddiadau’r Brifysgol yw un o ‘Diwylliant Diogelwch Cyfiawn’. Mae hyn fel bod atebolrwydd a dealltwriaeth ar y cyd yn digwydd mewn damwain, digwyddiad, a digwyddiad a fu bron â digwydd. O’r herwydd, mae’r Brifysgol yn mynd ati i annog staff a myfyrwyr i adrodd am ddigwyddiadau a phryderon fel y gallwn reoli’r rhain mewn ffordd sy’n hyrwyddo darparu cymorth, dysgu a gwelliant priodol i sicrhau iechyd, diogelwch a lles ein cymuned.
Mae Iechyd a Diogelwch ar hyn o bryd yn edrych ar ffyrdd o wneud adrodd am bryderon a digwyddiadau yn haws i chi.
Plis defnyddiwch y botymau ar y dde i adrodd, ac mae'r dolenni isod yn rhoi gwybodaeth ac arweiniad.
- Ffurf Geiriau: Ffurflen Damwain a Digwyddiad y Brifysgol
- Ffurf Geiriau: Ffurflen adrodd Digwyddiad / Achos y bu ond y dim iddynt ddigwydd (gellir ei gwblhau os na chafodd unrhyw berson ei niweidio / anafu)
- (gellir ei gwblhau os na chafodd unrhyw berson ei niweidio / anafu)
- Sut i gwblhau Ffurflen Damwain/Digwyddiad
- Sut i gynnal Dadansoddiad ac Archwiliad Damwain/Digwyddiad
NODWCH: Mae'r Ffurflen adrodd Digwyddiad / Achos y bu iddynt ddigwydd / byr yn gallu cael eu defnyddio i adrodd sefyllfaoedd peryglus a allai fod, arferion anniogel a digwyddiadau fu bron os nad oes person wedi niweidio / anafu.
Mewn rhai amgylchiadau, efallai bydd angen adroddiad ychwanegol yn unol â’r Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus 2013 (). Mae’r Rheoliadau’n berthnasol i holl dasgau gwaith ond nid i bob damwain ac mae’r wybodaeth a geir o’r adroddiad yn galluogi'r awdurdod gorfodi i ganfod lle a sut mae risgiau’n codi, archwilio digwyddiadau difrifol a chynghori cyflogwyr a gweithwyr ar gamau ataliol i leihau niwed, afiechyd a cholled drwy ddamwain – llawer ohonynt na ellir eu hyswirio.
NODWCH: Mae Iechyd a Diogelwch yn gyfrifol am adroddi'r holl ddamweiniau a digwyddiadau RIDDOR i'r HSE.
Fedri gael gweld graddfa damweiniau dros y blynyddoedd o fewn adroddiadau blynyddol
Digwyddiadau Amgylcheddol
Os ydych yn sylwi ar unrhyw lygredd neu ddigwyddiadau amgylcheddol eraill yn y Brifysgol cofiwch adael i ni wybod yn syth trwy llenwi’r ffurflen Adroddiad Digwyddiad Amgylcheddol.