Gwybodaeth i Staff
Cydlynwyr Iechyd a Diogelwch
Aelodau staff sy’n ymwneud â materion iechyd a diogelwch o ddydd i ddydd yn eu Coleg /Gwasanaeth (ac weithiau Ysgol neu Adran) yw Cydlynwyr Iechyd a Diogelwch ac maent yn cael eu penodi gyda chylch gorchwyl a dyletswyddau penodol gan Bennaeth Coleg / Cyfarwyddwyr Gwasanaethau. Â
Prif orchwyl y Cydlynwyr Iechyd a Diogelwch yw cynghori Pennaeth y Coleg / Gwasanaeth, ac eraill, ar faterion iechyd a diogelwch a chynorthwyo i weithredu’r system rheolaeth y cytunwyd arni.  Dylai swydd Cydlynydd Diogelwch gael cefnogaeth o fewn y Coleg / Adran a dylai ef/hi/hwy gael hyfforddiant ac adnoddau digonol (o ran amser, arian, cymorth a chefnogaeth) i gyflawni eu swyddogaeth.
Daw'r tabl canlynol o Bolisi Iechyd a Diogelwch canolog y Brifysgol.
Cysylltwch ag Iechyd a Diogelwch i gael arweiniad pellach ynghylch rôl y Cydlynydd Iechyd a Diogelwch.
8.0 |
CYDLYNWYR/SWYDDOGION IECHYD A DIOGELWCH COLEG/GWASANAETH |
|
Aelodau staff sy’n ymwneud â materion iechyd a diogelwch o ddydd i ddydd yn eu Coleg /Gwasanaeth Proffesiynol yw Cydlynwyr/Swyddogion Iechyd a Diogelwch ac maent yn cael eu penodi gan Ddeon Coleg neu Gyfarwyddwr Gwasanaeth Proffesiynol, yn unol â swydd-ddisgrifiad eglur. |
8.1 |
Prif orchwyl y Swyddog/Cydlynydd Iechyd a Diogelwch yw cynorthwyo Deon Coleg neu Gyfarwyddwr Gwasanaeth Proffesiynol, ac aelodau eraill o'r Coleg/Gwasanaeth Proffesiynol, gyda materion iechyd a diogelwch a chynorthwyo i weithredu’r system reoli y cytunwyd arni. |
8.2 |
Dylai swydd Swyddog(ion)/Cydlynydd Iechyd a Diogelwch gael cefnogaeth o fewn y Coleg/Gwasanaeth Proffesiynol a dylai ef/hi/hwy gael hyfforddiant ac adnoddau digonol (o ran amser, arian, cymorth a chefnogaeth) i gyflawni eu swyddogaeth. |
8.3 |
Gall swyddogaethau iechyd a diogelwch penodedig ychwanegol fod yn briodol hefyd mewn Colegau a Gwasanaethau Proffesiynol mwy neu fwy arbenigol. Dylai swyddogaethau o'r fath gael eu diffinio'n glir a chael yr awdurdod a'r gefnogaeth angenrheidiol gan y Swyddog/Cydlynydd Iechyd a Diogelwch. |