Deon Colegau a Cyfarwyddwyr Gwasanaethau
Sut rwy’n gwybod bod y drefn yn gweithio?
Holwch eich hun:
- Ydw i’n gwybod beth yw risgiau arwyddocaol fy Ngholeg / Adran? – os tybiwch nad oes rhai gennych, rhowch ail gynnig arni.
- Pa bryd rhydoch wedi trafod neu ystyried eich dogfen drosolwg asesiad risg?
- Faint o ddiwrnodau a gollir oherwydd absenoldeb staff trwy salwch?
- A yw fy holl staff wedi cael hyfforddiant addas ar iechyd a diogelwch, yn lleol a gan y brifysgol?
- Faint o staff a myfyrwyr gafodd ddamwain neu a fu bron â chael un yn fy Ngholeg / Adran y llynedd?
- Pryd oedd y tro diwethaf imi gwrdd â’m Cydlynydd Iechyd a Diogelwch a phryd y lluniwyd yr adroddiad blynyddol diwethaf? A weithredwyd arno?
- A yw’r holl risgiau o bwys wedi’u pwyso a’u mesur, ac a oes gwelliannau wedi’u cyflwyno?
- A anogir pobl i wella’n barhaus ac i leihau risg?
- Pryd oedd y tro diwethaf imi gymryd rhan mewn arolwg iechyd a diogelwch o fewn fy Ngholeg / Adran?
- A gynhelir arolygon iechyd a diogelwch yn gyson, ac a weithredir ar argymhellion?
- A oes Pwyllgor Iechyd a Diogelwch Colegol / Adrannol ac a yw’n gweithio?
- A yw fy staff a’m myfyrwyr yn cael gwybodaeth a hyfforddiant addas a digonol o ran iechyd a diogelwch?
- Beth yw fy system rheoli iechyd a diogelwch, ac a ydw i’n ffyddiog fod y cyfan sydd angen ei wneud yn cael ei wneud?
Mewn gwirionedd, dylech allu ateb y cwestiynau uchod yn gadarnhaol, neu fod yn ffyddiog fod gennych ddigon o systemau ac o bobl i sicrhau bod materion syml megis y rhain yn cael sylw’n llwyddiannus.
Fodd bynnag, weithiau, yn y pen draw, dyma sy’n bwysig – a ellwch ateb y cwestiwn isod yn gadarnhaol?
-
Pe bai Arolygydd o AGID yn gofyn am gyfarfod â chi yfory, a ydych yn fodlon y byddech yn gallu dangos fod gennych systemau o fewn eich Coleg / Adran nad yw’n unig yn nodi risg, ond sydd hefyd yn sicrhau biod y risgiau hyn yn cael eu rheoli’n addas, eu lleihau a, lle bo modd, eu dileu, fel na chaiff neb niwed?
Hunan-archwilio
Bob blwyddyn, dylech chi a’ch tîm archwilio iechyd a diogelwch gynnal hunan-archwiliad Colegol / Adrannol o’ch gweithgareddau a’ch rheolaeth. Fel rheol, byddwch yn gwneud hyn trwy lenwi rhestr wirio a chynnal arolygon enghreifftiol er mwyn profi ichi eich hunain fod yr hyn a ddywedir yn digwydd mewn gwirionedd.
Dylai canlyniadau’r hunan-archwiliad hwn arolygu’r hyn y mae eich Coleg / Adran yn ei wneud yn dda a pha feysydd sy’n gofyn am fwy o ymdrech neu gymorth. Dylech anfon copi o’r hunan-archwiliad hwn ymlaen i Wasanaethau Iechyd a Diogelwch.
Archwilio gan y Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch
Bydd y Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch yn cynnal archwiliadau bob hyn a hyn ar systemau rheoli iechyd a diogelwch ar draws y Brifysgol, ac mewn Colegau ac Adrannau dethol. Gall yr archwiliadau hynny fod ar thema (pwnc-benodol neu eitem-benodol) neu fod yn archwiliad ffurfiol i fonitro’r graddau y cydymffurfir â pholisïau’r Brifysgol ac â deddfwriaeth gymwys o fewn eich Coleg / Adran.
Cyflwynir Adroddiadau Cryno archwiliadau Iechyd a Diogelwch i Bwyllgor Iechyd a Diogelwch y Brifysgol, ac ystyrir hwy yn fwy manwl gan Grŵp Tasg Rheoli Argyfyngau Iechyd a Diogelwch.