Llwybrau i Iechyd
Nid yw o fudd i unrhyw un sydd i ffwrdd yn sâl i ddod yn ôl i'r gwaith cyn ei bod yn ddiogel iddynt wneud hynny. Po fwyaf mae rhywun i ffwrdd o'r gwaith, mae'n dod yn anoddach iddynt ddychwelyd, yn enwedig os ydynt yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain i oresgyn rhwystrau i ddychwelyd (HSE 2010)
Ar 6 Ebrill 2010, disodlwyd yr hen lythyr salwch meddygol gan ddatganiad meddygol o ffit i weithio. Mae'r dull newydd hwn yn sicrhau nad yw unigolion yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain i oresgyn rhwystrau i ddychwelyd. Gall meddygon teulu oresgyn rhai rhwystrau trwy awgrymu bod rheolwyr yn gwneud newidiadau yn y gwaith a all gynnwys newid oriau gweithio, addasu dyletswyddau, addasiadau yn y gweithle neu ddychwelyd yn raddol at eich oriau arferol, cyfrifoldebau a/neu lwyth gwaith.
Mae'r datganiad meddygol newydd o ffitrwydd ar gyfer gwaith wedi helpu llawer o bobl i ddychwelyd yn llwyddiannus ac yn gynharach heb iddynt wella'n llwyr o salwch. Mae rhai o'r aelodau staff hyn wedi cytuno i rannu eu profiad gyda chi trwy esbonio'u problem iechyd yn fyr, yr effaith a gafodd ar eu gallu i weithio a sut y maent wedi cael eu cefnogi i barhau i weithio. Cliciwch ar y ffenestri ar ochr dde'r dudalen hon i gael gwybod mwy.
Mae Prifysgol Bangor yn croesawu'r ymdrechion mae staff yn eu gwneud i ddychwelyd yn gynt i iechyd yn y gwaith, a byddant yn cefnogi’r ymdrech honno. Mae rheolwyr yn falch o ddilyn cyngor meddygon teulu i ddychwelyd i'r gwaith yn gynharach ac yn fwy llwyddiannus, ac mae'r ymarferwr iechyd galwedigaethol yn cynorthwyo'r drefn hon drwy gyswllt lles gyda'r rhai na allant weithio. Mae'r Ymarferwr Iechyd Galwedigaethol yn cefnogi dychwelyd i iechyd drwy waith mewn nifer o ffyrdd ymarferol iawn. Mae enghreifftiau yn cynnwys:
Mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon wedi cynhyrchu map corff o wybodaeth ar gyfer gweithdrefnau llawfeddygol cyffredin. Mae llawer o'r esboniadau yn gynnwys olrhain gwellhad sy'n helpu i roi graddfeydd amser ar y math o weithgarwch mae'r meddygon yn eu cynghori, gan gynnwys canllawiau ar gyfer dychwelyd i'r gwaith. Adolygir y map corff hwn yn gyson, a thrwy ei ddatblygu, bydd mwy o weithdrefnau llawfeddygol yn cael eu hychwanegu, a bydd diwygiadau i gyngor presennol fel gweithdrefnau newydd yn cael eu cyflwyno. Gobeithiwn y bydd yn ddefnyddiol i chi:
Mae’r Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch wedi paratoi dogfen 'Mynd o Gwmpas Prifysgol Bangor' ac rydym yn gobeithio y bydd yn galluogi i staff a myfyrwyr ymgyfarwyddo â chynllun y Campws, cyfleusterau ac ati.