Dychwelyd Graddol / Addasiadau Gweithle
Astudiaeth Achos 1
Mae cynllun dychwelyd yn raddol yn golygu dechrau gwaith ar yr amser arferol a gorffen yn gynnar, gan gynyddu oriau a diwrnodau gweithio fesul dipyn bob wythnos am hyd at 4 wythnos waith fel rheol. Yn ystod y cyfnod dychwelyd yn raddol, mae pobl yn cael eu talu fel pe baent yn gweithio eu horiau contract mwyaf. Mae'r trefniant hwn yn ddefnyddiol i roi amser i bobl ail-addasu i fod yn y gwaith, y llwyth gwaith dan sylw, ac i gynllunio a gwella addasiadau yn y gweithle. Y nod yw gwneud y broses o ddychwelyd yn ddiogel, cynhyrchiol a llwyddiannus. Llwyddir yn hyn o beth pan nad yw'r person yn gofyn am fwy o amser i ffwrdd oherwydd cefnogaeth annigonol yn y gwaith.
Ni fu i aelod staff academaidd allu gweithio am bron i 6 mis oherwydd cyflwr meddygol a oedd yn achosi anawsterau ymarferol a oedd yn cyfyngu ar ei allu i gerdded, eistedd am gyfnodau hir i wneud gwaith cyfrifiadurol, plygu, ymestyn, gwthio a thynnu.
Er mwyn cefnogi ddychwelyd i'r gwaith yn llwyddiannus, bu i’r ymarferydd iechyd galwedigaethol wrando ar yr aelod staff a gweithio gydag ef ac arbenigwr rheoli poen o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Roedd y broses yn cynnwys:
-
Cynllunio sut i gyrraedd y gwaith. Nid oedd yr aelod staff yn gallu gyrru felly byddai'r daith yn cael ei gwneud ar y trên, gan ddefnyddio tacsi i fynd i’r orsaf ac oddi yno.
-
Bu i asesiad cyn dechrau gweithio nodi nifer o addasiadau yn y gweithle, a gwnaed y rhain cyn y diwrnod dychwelyd i'r gwaith. Roedd y rhain yn cynnwys:
- Newid uchder dolenni drysau a’i gwneud yn haws i’w hagor
- Ei gwneud yn haws i agor drysau coridorau (tân)
- Gostwng silffoedd swyddfa a chynyddu’r nifer y gellid eu defnyddio ar uchder y canol
- Newid cabinetau ffeilio 4 drôr am gabinetau ffeilio 3 drôr is
- Addasu offer clyweled darlithfa er mwyn sicrhau ei fod o fewn cyrraedd.
-
Bu i adolygiad o ddesg y cyfrifiadur arwain at:
-
Symud yr uned brosesu ganolog o'r llawr ar y ddesg – fel y gellir mynd at y peiriant o safle eistedd heb ymestyn neu blygu.
-
L lwytho rhaglen rheoli cyflymder i lawr sy'n cyflwyno neges bob hyn a hyn i’ch atgoffa i gael seibiant o'r gwaith di-dor ar y bysellfwrdd (pennir y cyfnodau amser ymlaen llaw). Gosodwyd hyn bob 30 munud ar y dechrau.
Yn ystod y cyfnod dychwelyd i’r gwaith yn raddol, roedd yr aelod staff wedi prynu 'handi-grabber' - sef gwialen estynadwy sy'n gweithredu efo'r llaw i godi papur neu wrthrychau arall ysgafn sydd wedi syrthio ar y llawr; Gwnaed addasiadau i ffenestr y swyddfa i alluogi'r aelod staff ei hagor a’i chau yn ôl y tymheredd. Nodwyd addasiadau ychwanegol a oedd yn cynnwys canllawiau mwy o amgylch yr adeilad.
Astudiaeth Achos 2
Mae gen i ddwy broblem iechyd sy'n effeithio arnaf i raddau gwahanol. Rydw i’n fyddar ac yn defnyddio dau gymhorthydd clyw (er bod gen i tua 25% o glyw ar ôl o hyd). Mae hyn wedi golygu bod angen i mi gael ffôn arbennig. Mae angen i gyd-weithwyr fy wynebu wrth siarad. Y broblem iechyd mawr ar hyn o bryd yw fy mod i'n gaeth i gadair olwyn oherwydd anaf i'm pen-glin.
Rwy'n ei chael hi'n gymharol hawdd symud o gwmpas fy adeilad. Mae'r tîm yma wedi bod yn gefnogol. Er hynny, mae yna adegau anodd. Mae natur ein hadeilad yn golygu ein bod llawer o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal a gall rhai mannau fynd yn orlawn. Mae ein staff yn dda am wybod y llwybrau rydw i’n eu cymryd, ac wedi sicrhau bod y llwybrau’n cael eu cadw'n glir wrth osod pethau ar gyfer digwyddiadau, ond gall ymwelwyr o’r tu allan fod ychydig yn fwy o her! Mae o hefyd yn gwneud teithio rhwng adeiladau yn fwy o her, a hefyd yn cyfyngu i ryw raddau'r adeiladau y gallaf fynd iddynt heb gymorth mewn gwirionedd.
Rydw i bob amser yn siriol ac yn ymwybodol o'r ffaith bod hon, o leiaf, yn broblem dros dro. Dim ond i chi beidio â mynd o flaen y gadair pan fyddai’n codi cyflymder!