Ymwelwyr a Chontractwyr
Ymwelwyr
Disgwylir i holl ymwelwyr â’r Brifysgol gadw at reolau a rheolaethau iechyd a diogelwch y sefydliad.  Ar y llaw arall, polisi’r Brifysgol yw sicrhau nad yw ymwelwyr â’r Brifysgol yn wynebu unrhyw risgiau o bwys a allai effeithio ar eu hiechyd a’u diogelwch.  Fel rhan o hyn, mae Colegau ac Adrannau’n gyfrifol am sefydlu trefniadau i sicrhau iechyd a diogelwch eu hymwelwyr. Â
Mae’n ofynnol i Golegau ac Adrannau, sydd â rheolaeth dros fannau y mae gan y cyhoedd fynediad atynt, sicrhau y cedwir y rhain mewn cyflwr da cyn belled ag y mae o fewn eu gallu i wneud hynny. Disgwylir iddynt hefyd weithredu i rwystro mynediad di-awdurdod i fannau lle gallai ymwelwyr fod mewn perygl. Â
Contractwyr
Mae’n rhaid i’r holl gontractwyr sy’n gweithio yn y Brifysgol gydymffurfio â gofynion statudol a gofynion y Brifysgol i sicrhau y cynhelir eu gwaith yn y fath fodd ag i leihau i’r eithaf unrhyw risgiau iddynt eu hunain ac eraill y gall eu gwaith effeithio arnynt.  Gall methu â gwneud hynny gael ei ystyried yn sail dros derfynu contract.
Yr un modd, mae gan y Brifysgol ymrwymiad tuag at unrhyw gontractwyr i sicrhau y rhoddir gwybodaeth iddynt am unrhyw risgiau posibl i’w hiechyd a diogelwch, a’r camau y dylent eu cymryd i osgoi y cyfryw risgiau. Y mae felly’n hollbwysig cael cysylltiad effeithiol rhwng staff y Brifysgol a staff y contractwr, fel y gallant fod yn ymwybodol o anghenion iechyd a diogelwch y naill a’r llall.
Disgwylir i’r Brifysgol hefyd oruchwylio perfformiad contractwyr i sicrhau eu bod yn gweithio i safon ddiogel dderbyniol. Â Fel rheol, yr Gwasanaethau Campws fydd yn gyfrifol am hyn, ond gall Colegau ac Adrannau hefyd fod yn gyfrifol am enwebu rhywun i wneud y gwaith goruchwylio perfformiad hwn os ydynt wedi penodi contractwyr.
Yr Gwasanaethau Campws yn unig a all gyflogi contractwyr i weithio ar adeiladwaith neu wasanaethau adeilad.
Os sylwir bod contractwyr yn gweithio mewn ffordd ‘anniogel’, sy’n peryglu eu hunain neu staff a myfyrwyr y Brifysgol, dylid cysylltu yn y lle cyntaf â’r Coleg neu’r Adran sydd wedi cyflogi’r contractwyr. Yr Gwasanaethau Campws fydd hon yn achos y rhan fwyaf o waith adeiladu cyffredinol. Fodd bynnag, os nad ydych yn gwybod pa Goleg neu Adran sy’n gyfrifol am y gwaith, neu na ellir cysylltu â hwy, dylid rhoi gwybod i’r Iechyd a Diogelwch.