Deon Colegau a Phenaethiaid Adrannau
Beth yw fy nghyfrifoldeb i?
Yn ôl polisi’r Brifysgol ar Iechyd a Diogelwch, cyfrifoldeb Deon Colegau a Phenaethiaid Adrannau yw rheolaeth o ddydd i ddydd ar iechyd a diogelwch yn eu Coleg / Adran. Yn benodol, maent yn gyfrifol am gynllunio, gweithredu, monitro ac adolygu camau a gymerir i reoli risgiau sy’n deillio o weithgareddau eu Coleg neu eu Hadran. Rhaid iddynt hefyd sicrhau y caiff adnoddau eu dynodi yn ôl yr angen.
Gall Deon Colegau a Phenaethiaid Adrannau benodi Cydlynydd Diogelwch, a gallant drefnu dirprwyo dyletswyddau ymhellach (i Benaethiaid Ysgolion, er enghraifft), fel y bo’n briodol. Fodd bynnag, cyfrifoldeb Pennaeth y Coleg / Adran fydd y gweithgareddau bob amser, ac o hynny allan yn hierarchaidd, gyda’r Pwyllgor Gweithredu, yr Is-Ganghellor a Chyngor y Brifysgol, yn yr un modd ag unrhyw atebolrwydd rheolaethol.
Deon Colegau a Phenaethiaid Adrannau sy’n gyfrifol am weithredu a monitro trefn effeithiol ar gyfer rheoli iechyd a diogelwch fel bod y Coleg / Adran yn cydymffurfio’n llwyr â Pholisi’r Brifysgol ar Iechyd a Diogelwch, a rhaid cloriannu a rheoli’r holl beryglon a risgiau o bwys er sicrhau cydymffurfio â’r gyfraith ac na chaiff neb niwed.
Deon Colegau a Phenaethiaid Adrannau hefyd ychwanegu dogfen ysgrifenedig ar Bolisi a Dulliau Gweithredu Colegol neu Adrannol ar Iechyd a Diogelwch at Bolisi’r Brifysgol ar Iechyd a Diogelwch. Bydd y ddogfen hon yn nodi’n glir sut y rheolir iechyd a diogelwch o fewn y Coleg / Adran a’r modd y dirprwyir dyletswyddau er sicrhau llwyddiant y Polisi.
Nid yw Deon Colegau a Phenaethiaid Adrannau ( ac eithrio'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Campws) yn gyfrifol am adeiladwaith nac am wasanaeth i adeiladau, nac am y mannau allanol sy’n amgylchynu adeiladau. Fodd bynnag, bydd Deon Colegau a Phenaethiaid Adrannau yn pennu dulliau rheoli addas i sicrhau diogelwch pawb dan ei r(h)eolaeth, ac am sicrhau bod diffygion neu broblemau sy’n gysylltiedig ag adeiladwaith a/ neu wasanaeth yr adeilad yn dod i sylw’r Gwasanaethau Campws.Â