Deon Colegau a Cyfarwyddwyr Gwasanaethau
A gaf ddirprwyo cyfrifoldeb?
Ni chaiff neb ddirprwyo cyfrifoldeb dros iechyd a diogelwch yn llwyr. Bydd dyletswydd gofal bob amser yn aros gyda chi, gyda’ch rheolwr atebol, gyda’r Is-Ganghellor, gyda Chyngor y Brifysgol, ac felly ymlaen.
Bydd gennych bob amser gyfrifoldeb cyfreithiol dros gynnal gweithgaredd yn ddiogel os yw’n dal o fewn cylch gorchwyl eich Coleg neu’ch Gwasanaeth, ni ellwch drosglwyddo cyfrifoldeb yn llwyr i neb arall, am mai chi yw’r ‘Pennaeth’. Os byddwch yn dirprwyo ‘tasg’, mae’n ofynnol wedyn ichi fonitro pa mor ddiogel y cyflawnir y dasg honno.
Gall cyfrifoldeb fod yn eang, neu efallai y bydd yn hawdd nodi un person ar ei gyfer; mae’n dibynnu’n helaeth ar amgylchiadau a lle’r cyfrifoldeb. Fodd bynnag, ac mae hyn yn arwyddocaol, bydd y rheiny sydd â rheolaeth dros weithgareddau bob amser yn cadw lefel o gyfrifoldeb. Beth bynnag a fo, bydd cyfrifoldeb allweddol bob amser gyda’r unigolyn (Coleg / Adran) sy’n rheoli’r gweithgaredd sy’n creu’r risg, ynghyd â’r gyllideb sy’n cynnal y gweithgaredd.
Fel yn achos popeth ‘rheolaethol’, p’un a fyddo’n rheolaethau cyllidol neu’n ymddygiad eich staff, gellir eich dal yn gyfrifol am eich penderfyniadau, eich gweithredoedd a’ch diffyg gweithredu, a bydd disgwyl bob amser i chi, Pennaeth y Coleg / Adran, gymryd yr awenau a chymryd cyfrifoldeb. Ond, y gwahaniaeth o ran iechyd a diogelwch yw bod hyn, yn ôl y gyfraith, yn ofynnol.
Mae’r gyfraith ar iechyd a diogelwch yn eithaf clir, a rhaid cofio bod cyfraith iechyd a diogelwch yn gyfraith droseddol; mae’r faith hon yn tueddu i fynd ar flaen y meddwl pryd bynnag y bo rhywbeth o bwys yn mynd o’i le. Ond yn hytrach na phoeni am yr hyn a allai ddigwydd pe bai pethau’n mynd o chwith, mae angen inni ei chael yn iawn fel y gallwn ganolbwyntio ar ddatblygu ymhellach.