Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ

Fy ngwlad:

Pam astudio ym Mangor?

Gwnewch gais cyn 6yh ar Ddydd Mercher, 29 Ionawr 2025 i gychwyn eich cwrs ym Medi 2025

Cyfleusterau Dysgu ac Addysgu

Yn ogystal â'n hardaloedd dysgu, ystafelloedd TG, labordai a llyfrgelloedd, mae gennym hefyd ardd fotaneg, amgueddfa a llong ymchwil ein hunain.  

Dau fyfyriwr mewn ystafell yn neuaddau'r Santes Fair. Mae un yn darllen ar y gwely ac un arall yn eistedd wrth ddesg yn teipio ar liniadur.

Sicrwydd o lety mewn neuaddau o safon

Bydd ein neuaddau preswyl yn teimlo fel eich cartref newydd ymhen dim. Mae'r ddau bentref myfyrwyr o fewn pellter cerdded o brif adeiladau'r Brifysgol. 

Rydym yn sicrhau llety i holl israddedigion, llawn amser y flwyddyn gyntaf sy’n cychwyn eu cwrs fis medi, yn gwneud cais o fewn yr adegau priodol ac yn nodi Bangor fel eu Dewis Cadarn. Mae cost y neuaddau hefyd yn cynnwys aelodaeth o Campws Byw a'r gampfa. 

Lleoliad heb ei ail 

Myfyriwr mewn caiac ar Lyn Padarn yn Llanberis

Mae lleoliad Bangor – yn agos at y mynyddoedd a’r môr - wedi cael ei ddisgrifio fel ‘y lleoliad prifysgol gorau yn y DU’. Ond mae Bangor yn fwy na phrydferth, mae'n cynnig cyfle gwych i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau awyr agored ym Mharc Cenedlaethol Eryri, yn cynnwys y wifren wib gyflymaf yn Ewrop.

Ein Lleoliad

Clybiau a chymdeithasau 

Aelodau o dîm pêl-fasged merched yn ystod gêm yng Nghanolfan Brailsford

Mae Clybiau a Chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr sydd wedi cael eu gwobrwyo ymysg y gorau yn y DU tros y blynyddoedd, yn gyfle gwych i ddod i adnabod eraill. Gydag ystod eang o glybiau a chymdeithasau ar gael, rydych yn siŵr o ddod o hyd i glwb sy'n eich siwtio chi, beth bynnag yw eich diddordebau.

Clybiau a Chymdeithasau