Cyfleusterau Dysgu ac Addysgu
Nid yn unig ein bod yn cynnig ardaloedd dysgu, ystfelloedd TG a llyfrgelloedd. Yma ym Mangor, mae gennym ardaloedd dysgu cymdeithasol, labordai a hyd yn oed ein gardd fotanegol, amgueddfa a llong ymchwil ein hunain.
Our Research
Ymchwil o'r radd flaenaf
Mae ein hymchwil arloesol yn atgyfnerthu einÌýcwricwlwm sy'n newid yn barhaus ac yn helpu i ddatblygu ein dealltwriaeth gyfunol o'r byd o'n cwmpas.
Ìý
Rhaglenni Ymchwil
Rhowch eich sgiliau ymchwil ar waith wedi eich amgylchynu â chyfoedion ac athrawon sy'n rhannu eich angerdd dros hyrwyddo dealltwriaeth y byd o'ch maes astudio.
Ìý
ÌýLleoliad heb ei ail
MaeÌýlleoliad BangorÌý– yn agos at y mynyddoedd a’r môr -wedi cael ei ddisgrifio fel ‘y lleoliad prifysgol gorau yn y DU’. Ond mae Bangor yn fwy na phrydferth, mae'n cynnig cyfle gwych i gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau awyr agored ym Mharc Cenedlaethol Eryri, yn cynnwys y wifren wib gyflymaf yn Ewrop.
Clybiau a Chymdeithasau
Cafodd ein clybiau a chymdeithasau eu henwi'r gorau ym Mhrydain yng ngwobrau What Uni 2019 a daeth Bangor yn 2il yn 2020 am Chwaraeon a Chymdeithasau. Gyda ystod eang o glybiau a chymdeithasau ar gael - rydych yn siwr o ddod o hyd i glwb sy'n eich siwtio chi, beth bynnag yw eich diddordebau.