Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
Ysgoloriaethau
- Ysgoloriaethau Teilyngdod a Mynediad
- Ysgoloriaethau Chwaraeon
- Ysgoloriaethau Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Angen cyngor?
- ÌýBydd gwybodaeth am yr amserlen a'r broses o ymgeisio am Ysgoloriaethau Mynediad 2025 ar gael yn fuan.
- Bwrsariaethau Cychwyn
- Bwrsariaethau Astudio trwy'r Gymraeg
- Bwrsariaethau Gofalwyr
- Bwrsariaethau Ychwanegol
Cofiwch...
- Gallwch dderbyn Ysgoloriaeth Teilyngdod, neu unrhywun o'r Ysgoloriaethau Mynediad eraill, yn ychwanegol atÌýunrhyw daliad(au) bwrsariaeth rydych yn gymwys amdano/amdanynt.
- I fod yn gymwys i gael unrhyw un o fwrsariaethau Bangor, rhaid i chi lenwi ffurflen Gwneud Cais am Gyllid Myfyrwyr (PN1) - dyma'r ffordd o asesu hawl myfyrwyr i gael benthyciadau, grantiau cynhaliaeth ac ati. Bydd yr un drefn (a'r un ffurflen) yn cynnwys asesu eich hawl i gael un o fwrsariaethau Bangor.
- Caiff bwrsariaethau ond eu talu i fyfyrwyr israddedig llawn amser sydd yn talu'r ffi llawn o £9,000, wedi cofrestru ac yn bresennol 14 diwrnod cyn diwrnod talu'r fwrsariaeth.
- Nid yw myfyrwyr sydd yn derbyn unrhyw daliad bwrsariaeth arall (e.e. GIC, Cyngor Gofal Iechyd a Chymdeithasol) yn deilwng ar gyfer y cynllun bwrsariaethau.
- Caiff taliadau bwrsariaethau eu gweinyddu a'u dosbarthu gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ar ran y Brifysgol - felly rhaid i chi lenwi ffurflen gais am gyllid myfyrwyr cyn gallu derbyn taliad bwrsariaeth gan Fangor.
Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Bangor yn falch o allu cynnig y bwrsariaethau canlynol i gefnogi myfyrwyr sy’n astudio’r Gymraeg fel rhan o radd sengl, gradd ar y cyd, neu radd gydanrhydedd.
Bwrsariaeth y Teulu Glynne (Gwobr Gogledd Cymru): Mae’r fwrsariaeth hon hyd at uchafswm o £1250 yn ystod y flwyddyn gyntaf o astudio, gydag uchafswm o wyth gwobr ar gael.
I fod yn gymwys rhaid i ymgeiswyr naill ai (1) fod wedi mynd i ysgol uwchradd/coleg, neu’n (2) byw fel rheol yn un o'r siroedd canlynol: Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam.
Bwrsariaeth y Teulu Glynne (Gwobr Cymru Gyfan): Mae’r fwrsariaeth hon hyd at uchafswm o £500 yn ystod y flwyddyn gyntaf o astudio, gydag uchafswm o bum gwobr ar gael.
I fod yn gymwys rhaid i ymgeiswyr naill ai (1) fod wedi mynd i ysgol uwchradd/coleg, neu’n (2) byw fel rheol yng Nghymru.
Cwestiynau cyffredin:
- Sut i wneud cais:
- Pryd mae'r dyddiad cau? 31 Ionawr 2025
- Pryd fydd y cyhoeddiadau am y bwrsariaethau yn cael eu gwneud? ÌýCyhoeddir enwau ymgeiswyr llwyddiannus ddiwedd mis Mawrth/dechrau Mehefin
- A yw hyn yn agored i fyfyrwyr rhyngwladol? Nac ydy
- Rwyf wedi derbyn Ysgoloriaeth Prifysgol Bangor arall (e.e. Ysgoloriaeth Rhagoriaeth, ysgoloriaeth Coleg Cymraeg Cenedlaethol), a ydw i'n dal yn gymwys i wneud cais? Ydych
- Byddaf yn astudio'n rhan amser, ydw i'n gymwys i wneud cais? Ydych
Am fwy o wybodaeth cysylltwch âÌýcahb@bangor.ac.uk
Ìý
Amodau a Chymhwystra
Mae'r bwrsariaethau hyn ar gael i fyfyrwyr y Deyrnas Unedig sydd wedi gwneud cais i astudio gradd BA yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Bangor ac wedi mynd ymlaen i gofrestru ar y cwrs. Bydd myfyrwyr llwyddiannus yn derbyn un fwrsariaeth, yn daladwy yn eu blwyddyn gyntaf o astudio yn unig. Myfyrwyr cymwys:
- Rhaid eu bod yn dechrau ar eu gradd BA ym Mhrifysgol Bangor ym mis Medi 2025 mewn gradd anrhydedd sengl 'Cymraeg', 'Cymraeg (Cymraeg) gyda...', gradd cydanrhydedd 'Cymraeg (Cymraeg) a...', neu radd 'Pwnc arall gyda Chymraeg)' a gynigir gan yr Adran.
- Rhaid eu bod wedi cofrestru (yn llawn amser neu’n rhan amser) ar gwrs gradd cymwys (gweler * isod).
- Ar gyfer gwobr gogledd Cymru, byddant wedi mynd i ysgol uwchradd/coleg a/neu wedi byw yng ngogledd Cymru (sef, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam).
- Ar gyfer y wobr Cymru Gyfan, byddant wedi mynd i ysgol uwchradd/coleg a/neu wedi byw yng Nghymru.
*Rhestr o gyrsiau cymwys
Q565 Cymraeg (i ddechreuwyr) BA
Q562 Cymraeg BA
Q563 Cymraeg Proffesiynol BA
Q5WK Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol BA
Q5P5 Cymraeg gyda Newyddiaduraeth BA
QWM5 Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau BA
QW53 Cymraeg a Cherddoriaeth BA
LQ35 Cymraeg a Chymdeithaseg BA
3Q5Q Cymraeg a Llenyddiaeth Saesneg BA
QV51 Cymraeg a Hanes BA
QQ15 Cymraeg ac Ieithyddiaeth BA
Q5VV Cymraeg ac Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd BA
QMV2 Cymraeg a Hanes Cymru BA
R805 Ieithoedd Modern a Chymraeg BA
X321 Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg BA
M1Q5 Y Gyfraith gyda Chymraeg LLB
Ìý
Mae’r Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau yn falch o allu cynnig bwrsariaeth o hyd at £2000 i gefnogi myfyrwyr sy’n astudio Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor fel rhan o gwrs gradd israddedig sy’n dechrau ym Medi 2025. Bydd derbynwyr llwyddiannus yn cael bwrsariaeth o hyd at uchafswm o £2000 yn ystod y flwyddyn astudio gyntaf. Mae uchafswm o bedair bwrsariaeth ar gael.
I fod yn gymwys rhaid i ymgeiswyr fodloni o leiaf un o'r meini prawf canlynol:
- wedi mynychu ysgol uwchradd/coleg yng Nghymru a/neu
- yn breswylydd fel rheol yng Nghymru.
Cwestiynau cyffredin:
- Sut i wneud cais:
- Pryd mae'r dyddiad cau? 31 Ionawr 2025
- Pryd fydd y cyhoeddiadau am y bwrsariaethau yn cael eu gwneud? ÌýCyhoeddir enwau ymgeiswyr llwyddiannus ddiwedd mis Mawrth/dechrau Mehefin (yr union ddyddiad i'w gadarnhau)
- A yw hyn yn agored i fyfyrwyr rhyngwladol? Nac ydy
- Rwyf wedi derbyn Ysgoloriaeth Prifysgol Bangor arall (e.e. Ysgoloriaeth Rhagoriaeth, ysgoloriaeth CCC), a ydw i'n dal yn gymwys i wneud cais? Ydych
- Byddaf yn astudio'n rhan amser, ydw i'n gymwys i wneud cais? Ydych
Am fwy o wybodaeth cysylltwch âÌýcahb@bangor.ac.uk
Ìý
Amodau a Chymhwystra
Mae'r bwrsariaethau hyn ar gael i fyfyrwyr y Deyrnas Unedig sydd wedi gwneud cais am radd BA cymwys ym maes Llenyddiaeth Saesneg a/neu Ysgrifennu Creadigol a gynigir gan yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau ym Mhrifysgol Bangor, ac sy’n mynd ymlaen i gofrestru arni. Bydd myfyrwyr llwyddiannus yn derbyn un fwrsariaeth, yn daladwy yn eu blwyddyn gyntaf o astudio yn unig. Myfyrwyr cymwys:
- Rhaid i’r myfyrwyr fod yn cychwyn ar eu gradd BA ym Mhrifysgol Bangor ym Medi 2025 ym maes Llenyddiaeth Saesneg/Ysgrifennu Creadigol a gynigir yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau;
- Rhaid i chi fod wedi cofrestru'n llawn amser neu'n rhan amser ar gwrs perthnasol*;
- Byddwch wedi mynd i ysgol uwchradd/coleg a/neu wedi byw yng Nghymru.
Ìý
*Pa gyrsiau sy'n gymwys? Gwelwch y rhestr isod
8H25 Llenyddiaeth Saesneg
2P17 Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
Qw34 Llenyddiaeth Saesneg a Drama
W8R8 Ysgrifennu Creadigol ac Ieithoedd Modern
QQC3 Iaith Saesneg a Llenyddiaeth Saesneg
32N6 Llenyddiaeth Saesneg a Cherddoriaeth
WW38 Cerddoriaeth ac Ysgrifennu Creadigol
R801 Ieithoedd Modern ac Ysgrifennu Creadigol
3QV1 Hanes a Llenyddiaeth Saesneg
C3WL Iaith Saesneg gydag Ysgrifennu Creadigol
33PQ Astudiaethau Ffilm a Llenyddiaeth Saesneg BA
P302 Astudiaethau'r Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg BA
W801 Ysgrifennu Creadigol
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ysgoloriaeth Rosie Skelton: mynediad 2025
Mae Adran y Celfyddydau yn falch o gynnig Ysgoloriaeth Rosie Skelton, er cof am y diweddar Rosie Skelton a fu’n ffigwr blaenllaw ym mywyd cerddorol Gogledd Cymru, yn dysgu’r ffidil ym Mhrifysgol Bangor ac yn arwain Cerddorfa Symffoni’r Brifysgol am flynyddoedd lawer.
Mae’r ysgoloriaeth gerddoriaeth israddedig yn agored i feiolinwyr yn unig, ac mae dyfarniad o £1000. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn perfformio mewn datganiad yn ystod y flwyddyn academaidd. Un dyfarniad sydd ar gael. Rhaid i’r ymgeiswyr cymwys:
- fod wedi gwneud cais a mynd ymlaen i gofrestru ar un o’r graddau anrhydedd sengl mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor (yn benodol BA Cerddoriaeth neu BMus Cerddoriaeth)
- fod yn feiolinydd hyd at safon o leiaf Gradd 7 ABRSM, neu gyfwerth
- ddechrau ar gwrs ym Mangor fis Medi 2025 (nid yw ceisiadau mynediad gohiriedig yn gymwys)
Sut mae gwneud cais am yr ysgoloriaeth? Does dim angen gwneud cais. Caiff ymgeiswyr cymwys BA Cerddoriaeth a BMus Cerddoriaeth eu hystyried yn awtomatig pan gânt eu gwahodd i gyfweliad. Gofynnwn i chi gyflwyno recordiad ohonoch yn chwarae darn (neu symudiad(au) ohono) 10 munud o hyd ar y mwyaf. Does dim cyfyngiadau o ran y genre na’r cyfnod ac ati.
Yn agored i’r canlynol: Ymgeiswyr y Deyrnas Unedig (Cartref). (Ymgeiswyr rhyngwladol ac UE cysylltwch â ni i wirio cymhwystra.)
Rhagor o wybodaeth: Cysylltwch â cerddoriaeth@bangor.ac.uk
Ìý
Mae’n bleser gan yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau gynnig nifer cyfyngedig o ysgoloriaethau i gefnogi myfyrwyr sy’n astudio Drama, Theatr a Pherfformio trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd Ysgolheigion Edwin Williams yn derbyn £5,000 bob blwyddyn o’u gradd (ar raglen tair blynedd).Ìý
Ariennir yr ysgoloriaethau trwy gymynrodd hael Rene Myddleton Williams, gweddw Edwin Williams (1918-2003), i anrhydeddu ei enw ac i hybu astudio a pherfformio drama ac astudiaethau theatr trwy gyfrwng y Gymraeg. Graddiodd Edwin o Fangor yn 1939 ac aeth ymlaen i ddysgu Celf a Thechneg Ddramatig yng Ngholeg y Normal Bangor, lle bu hefyd yn bennaeth Drama. Ìý
Cymhwystra
I fod yn gymwys rhaid i chi:
- Fod yn dilyn un o'r pedair rhaglen Ddrama cydanrhydedd isod,
- WW34 Cerddoriaeth a Drama Ìý
- P43W Ffilm a Drama Ìý
- QW34 Llenyddiaeth Saesneg a Drama Ìý
- P31WÌýCyfryngau a Drama ÌýÌý
- Rhaid i chi gymryd y modiwlau Drama o leiaf trwy gyfrwng y Gymraeg. Ìý
- Cychwyn eich cwrs ym Mhrifysgol Bangor yn fis Medi 2025.
Y Broses Ymgeisio
Gofynnir i chi ddarparu crynodeb o'ch profiad a'ch dyheadau i’r dyfodol, yn ogystal â sôn pam eich bod wedi dewis astudio Drama ym Mangor. Rhaid cyflwyno’r ffurflen gais yn Gymraeg. Ìý
Mae Ysgol Busnes Bangor yn falch iawn o gynnig bwrsariaeth a gynhigir gan yr ICAEW Foundation i un myfyriwr israddedig.
Bwrsariaeth israddedig yw hon sy’n agored ddim ond i fyfyrwyr sy'n astudio BSc Cyfrifeg a Chyllid sy’n werth £12,000, sef £4,000 bob blwyddyn am 3 blynedd. Dim ond un bwrsariaeth y gellir ei chynnig. I fod yn gymwys rhaid i ymgeiswyr fod:
- wedi gwneud cais ac wedi mynd yn eu blaenau i ymrestru ar y cwrs BSc Cyfrifeg a Chyllid ym Mhrifysgol Bangor.
- yn byw mewn aelwyd lle mae incwm trethadwy’r aelwyd yn £25,000 neu lai.
- yn dechrau ar eich cwrs ym Mangor ym mis Medi 2025 (nid yw ceisiadau lle mae mynediad wedi ei ohirio yn gymwys)
Sut mae gwneud cais am yr ysgoloriaeth?ÌýBydd modd gwneud cais unwaith yr ydych wedi ymrestru ym Mhrifysgol Bangor. Bydd pob ymgeisydd cymwys ar y cwrs BSc Cyfrifeg a Chyllid yn cael eu hysbysu'n awtomatig y dylent lenwi ffurflen gais.
Agored i:ÌýYmgeiswyr o’r Deyrnas Unedig (Cartref) yn unig.
Gwybodaeth bellach: Cysylltwch â cahss@bangor.ac.uk
Cronfa Caledi
Ydych chi'n fyfyriwr cartref sydd wedi'i gofrestru yn y DU neu'r UE ac yn wynebu caledi ariannol o ganlyniad i'r sefyllfa Coronafirws bresennol?
Mae rhagor o fanylion ar gael ar ein tudalennau Cyngor Ariannol.