Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ

Fy ngwlad:

Astudio Drwy Gyfrwng y Gymraeg

Myfyriwr yn eistedd yn gweithio ar liniadur yn Pontion yn gwisgo crys-t pêl droed Cymru

Ìý

Os mai astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yw eich bwriad a byw mewn cymuned wirioneddol ddwyieithog, Prifysgol Bangor yw’r lle i chi.Ìý

  • Mae Prifysgol Bangor yn cynnig mwy o fodiwlau a chyrsiau cyfrwng Cymraeg nag unrhyw brifysgol arall.Ìý
  • Wrth astudio drwy'r Gymraeg, gallwch gael gwell cysylltiad â’ch darlithwyr a’ch cydfyfyrwyr gan bod maint y dosbarthiadau yn tueddu i fod yn llai ac o ganlyniad yn caniatáu ichi gael mwy o gyfleoedd i gyfrannu.Ìý
  • Mae modiwlau dwyieithog neu gyfrwng Cymraeg ar gael ym mhob Ysgol academaidd.

Mae gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol declyn canfod cyrsiau sy’n nodi faint o’ch cwrs sydd ar gael yn Gymraeg.Ìý

PAM ASTUDIO DRWY'R GYMRAEG?

  • Mae angen pobl ddwyieithog mewn pob math o swyddi yng Nghymru.Ìý
  • Mae gofyn mawr am bobl ifanc broffesiynol sy’n gallu gweithio’n ddwyieithog yng Nghymru.Ìý
  • Bydd astudio trwy’r Gymraeg yn y brifysgol yn rhoi sylfaen ardderchog i’ch gyrfa.

ARIAN YN EICH POCED

Oeddech chi’n gwybod bod cefnogaeth ariannol ar gael i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg? Wrth gofrestru i ddilyn modiwlau cyfrwng Cymraeg, efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn y canlynol:ÌýÌý

£1000

Prif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol - £1,000 y flwyddyn am hyd at dair blynedd pan fyddwch yn astudio 80 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg.

£500

Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol - £500 y flwyddyn am hyd at dair blynedd os ydych yn astudio 40 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg.

£250

Bwrsariaeth Cymraeg- £250 y flwyddyn os ydych yn astudio 40 credyd y flwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae modd derbyn y fwrsariaeth hon yn ychwanegol at ysgoloriaethau’r CCC.

GWASANAETHAU MYFYRWYR

Mae llawer mwy i fywyd prifysgol na darlithoedd a chymdeithasu, wrth gwrs. I’ch cefnogi yn ystod eich amser yma, mae holl ystod gwasanaethau myfyrwyr y Brifysgol – o gyngor ar gyllid i gymorth cwnsela – ar gael drwy’r Gymraeg.

DARGANFOD MWY

Myfyriwr yn siarad gyda aelod o staff wrth dderbynfa Undeb Bangor

UNDEB BANGOR

Os hoffech gymdeithasu neu hamddena gyda siaradwyr Cymraeg eraill, rydych chi yn y lle iawn. Undeb Bangor yw Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor. Mae Undeb Myfyrwyr Cymru Bangor (UMCB) yn rhan o Undeb Bangor.

Mae gan lywydd sy’n gweithio i gefnogi myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a hybu’r iaith a’r diwylliant Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

²Ñ²¹±ð’r yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol drwy gydol y flwyddyn. Hefyd, mae gennym gorau Cymraeg, cymdeithas lenyddol, clybiau chwaraeon a gorsaf radio myfyrwyr, ac os hoffech sefydlu clwb cyfrwng Cymraeg newydd, mae cefnogaeth ar gael i wneud hynny.Ìý

Myfyrwraig Holly Shone mewn ystafell wely yn llety'r Santes Fair

LLETY PENODOL I SIARADWYR CYMRAEG

Beth am wneud Neuadd John Morris-JonesÌý(JMJ) yn gartref oddi cartref? Mae JMJ ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr, ac ynddi mae ystafelloedd en-suite a gofodau cymunedol – rhowch y tegell ymlaen i gael paned a sgwrs mewn awyrgylch Gymraeg naturiol.

Canolfan Bedwyr Logo

CEFNOGAETH SGILIAU CYMRAEG CANOLFAN BEDWYR

Os mai dysgwr Cymraeg ydych chi neu os hoffech chi wella’ch Cymraeg llafar neu ysgrifenedig, does unman gwell i ymarfer. Manteisiwch ar y gefnogaeth arbenigol sydd ar gael i fyfyrwyr Cymraeg gan staff Canolfan Bedwyr, sef Canolfan Gwasanaethau, Technoleg ac Ymchwil Cymraeg y Brifysgol.

Gallwch ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu academaidd a sgiliau cyflwyno a chewch gefnogaeth i sefyll arholiad Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd gwella eich sgiliau iaith yn eich helpu gyda’ch astudiaethau academaidd ac wrth i chi ddilyn eich gyrfa.

Logo Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cefnogaeth Sgiliau Cymraeg Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Nod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw adeiladu system addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog sy’n agored i bawb ac i ddatblygu gweithlu dwyieithog i Gymru.

Mae ‘cangen’ o’r Coleg ym mhob prifysgol yng Nghymru, ac mae cangen Bangor wedi ei lleoli yng Nghanolfan Bedwyr.

Cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg

Fel siaradwyr Cymraeg, mae cefnogaeth a chyfleoedd i dderbyn cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael ar eich cyfer drwy'r Uned Gwasanaethau Myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr yn ogystal ag o fewn eich Ysgol Academaidd. Pe byddech yn dymuno astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, mae llu o gefnogaeth ar gael ar eich cyfer i wneud hynny fel sydd wedi ei amlinellu yn y fideo.

Trawsgrifiad Fideo Cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg

[0:00] Croeso i Brifysgol Bangor!

[0:02] Mae yna lwyth o gyfleoedd a chefnogaeth ar gael i chi ddefnyddio'r Gymraeg tra 'da chi yn y brifysgol,

[0:07] felly dyma flas i chi ohonyn nhw.

[0:10] Yn gyntaf,

[0:11] mae yna gyfle i chi astudio rhan fawr neu fach o'ch cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.

[0:16] Gewch chi ddewis faint o'ch cwrs 'da chi isio ei astudio drwy gyfrwng y Gymraeg,

[0:20] ac yma mha iaith 'da chi'n cyflwyno eich gwaith.

[0:23] Mae 9 o bob 10 o'r siaradwyr Cymraeg sy'n fyfyrwyr yma,

[0:26] yn astudio rhwyfaint o'u cwrs drwy gyfrwng yr iaith.

[0:29] Felly mae'n rhywbeth hollol naturiol i wneud.

[0:32] Fel siaradwyr Cymraeg,

[0:34] gewch chi sgwrs a chyngor yn y Gymraeg ar unrhyw beth gan eich tiwtor personol,

[0:37] neu o wasanaethau myfyrwyr y brifysgol.

[0:41] Mae yna gymorth ar gael hefyd i'ch helpu chi astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, drwy Ganolfan Bedwyr,

[0:46] sy'n creu modiwlau ac adnoddau sgiliau iaith fel Cysill ar ap Geiriaduron.

[0:52] Os byddwch chi'n astudio rhywfaint drwy'r Gymraeg,

[0:54] gallwch chi dderbyn cefnogaeth ariannol drwy Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol,

[1:00] a'r bwrsariaeth astudio drwy gyfrwng y Gymraeg y brifysgol.

[1:04] Yn olaf,

[1:05] mae yna lwyth o gyfleoedd i gymdeithasu yn y Gymraeg

[1:07] drwy gymdeithasau a thimau chwaraeon Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor.

[1:12] Gwnewch yn fawr o'r cyfnod ym Mangor felly,

[1:15] a mwynhewch y profiad

Hawliau siaradwyr Cymraeg

Wyddech chi fod gan fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg hawliau i ddefnyddio'r iaith yn y brifysgol? Gwyliwch y fideo i gael dysgu mwy.

Am fwy o wybodaeth am astudio yn y Gymraeg, ewch i'r tudalennau Astudio.