Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ

Fy ngwlad:

Astudio neu weithio dramor

Profiad Rhyngwladol

Os ydych wedi bod yn ystyried cymryd blwyddyn i ffwrdd neu fynd i deithio dros yr haf ac wedi difaru peidio â gwneud hynny, mae ein rhaglenni astudio neu weithio dramor yn rhoi cyfle i chi fanteisio i'r eithaf ar eich profiad astudio. Darllenwch ymlaen i wybod sut y gallwch chi elwa o weithio neu astudio dramor.

Teithio neu Astudio Dramor

Blwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch gradd

Gallwch gymryd Blwyddyn Profiad Rhyngwladol, lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol, tra'n astudio ar y rhan fwyaf o'n cyrsiau israddedig. Pan fyddwch yn graddio, bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd. 

Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni. 

Pam mynd dramor?

Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith. Rydych yn siwr o ddychwelyd i Fangor yn fwy brwdfrydig, annibynnol a hyderus.

Myfyriwr yn pwyso i fyny yn erbyn wal o flaen tai blaen traeth ym Miwmares

Sut byddwch chi'n elwa?

  • Gwella eich rhagolygon gyrfa
  • Datblygu sgiliau a chael profiadau newydd
  • Teithio i leoedd anhygoel
  • Dysgu iaith arall
  • Cael persbectif byd-eang ar eich pwnc
  • Gwneud ffrindiau fydd am oes
Teithio neu Astudio Dramor

Bangor a Thu Hwnt

I ble all Bangor fynd â chi? I wybod mwy am ble allwch chi astudio neu weithio ac i wneud cais i gymryd rhan yn y cynllun, ewch i'r wefan Cyfnewidiau Rhyngwladol.