Gallwch gymryd rhan mewn聽amrywiaeth enfawr o chwaraeon. Mae gan Undeb Myfyrwyr Bangor ystod eang o dimau a chlybiau chwaraeon y gallwch ymuno 芒 nhw, gan gynnwys chwaraeon traddodiadol fel p锚l-droed, rygbi a thenis yn ogystal 芒 gweithgareddau mwy anarferol fel quidditch, hoci tanddwr a ffrisbi eithafol.
Mae gennym hefyd gyfleusterau ffitrwydd rhagorol ar y campws, ac wrth gwrs mae ein lleoliad yn golygu y gallwch dreulio amser yn yr awyr agored yn dringo mynyddoedd, padl-fyrddio, caiacio, syrffio a llawer mwy.
Cyfleusterau ar y campws
Canolfan Brailsford
惭补别听Canolfan Brailsford,聽canolfan chwaraeon a hamdden y Brifysgol, wedi ei lleoli yng nghanol Ffriddoedd, y prif safle neuaddau.
Mae'r ganolfan yn cynnwys tair campfa llawn offer ar gyfer ymarfer cardiofasgwlaidd a hyfforddi pwysau, neuadd gymnasteg a wal ddringo gyda sawl lefel anhawster. Y tu allan ceir caeau p锚l-droed a rygbi, cae synthetig gyda llifoleuadau i chwarae聽hoci, trac athletau a chyfleusterau amlbwrpas i chwarae tenis, p锚l-droed pump-bob-ochr a ph锚l-rhwyd.
Trac Athletau a Chaeau Chwarae Treborth
Ymhlith y cyfleusterau yn Treborth, mae caeau p锚l-droed, rygbi a Ph锚l-droed Americanaidd a thrac athletau.
Ystafell Ffitrwydd y Santes Fair
Mae ysgafell ffitrwydd聽ym Mhentref Santes Fair. Mae'r offer modern a gyflenwir gan LifeFitness yn cynnwys melinau troed, traws hyfforddwyr, beiciau, rhwyfwr d诺r聽ac amrywiaeth o beiriannau gwrthiant i alluogi ymarfer effeithiol.
Mae aelodaeth o'r gampfa yn gynwysedig i fyfyrwyr sy'n byw yn ein neuaddau preswyl.聽
Cyfleoedd ac Adnoddau Chwaraeon
Gweithgareddau awyr agored
Os oes gennych eisoes ddiddordeb mewn gweithgareddau awyr agored byddwch ar ben eich digon gyda'r amrywiaeth eang o chwaraeon sydd ar gael ar garreg eich drws. Yn Eryri ceir cyfleoedd gwych i ddringo a cherdded mynyddoedd a digonedd o chwaraeon d诺r, yn cynnwys can诺io, syrffio, a hwylio.
Cyfleusterau eraill ym Mangor a'r ardal
Ym Mangor ceir pwll nofio 25 metr gyda byrddau plymio 1m, 3m a 5m. Mae atyniadau poblogaidd eraill yn yr ardal yn cynnwys Zip World Eryri ym Methesda a Blaenau Ffestiniog, canolfan sg茂o ac eirafyrddio Llandudno, Canolfan chwaraeon d诺r Surflines yn Llanberis, y Ganolfan Fynydda Genedlaethol yng Nghapel Curig a'r Ganolfan Chwaraeon D诺r Genedlaethol ym Mhlas Menai ac Adventure Parc Snowdonia,聽sef parc chwaraeon d诺r a lag诺n syrffio artiffisial, yn nyffryn Conwy .
Ysgoloriaethau Chwaraeon
Rydym yn cefnogi myfyrwyr a dawn arbennig mewn chwaraeon trwy gynnig nifer o Ysgoloriaethau Chwaraeon gwerth hyd at 拢3,000 y flwyddyn. Bwriad yr Ysgoloriaethau yw cydnabod a chefnogi rhagoriaeth a chyrhaeddiad mewn chwaraeon ac nid yw'r ysgoloriaethau wedi eu cyfyngu i unrhyw gamp neilltuol nac i fyfyrwyr ar unrhyw gyrsiau penodol.