ÌýDyddiadau'r Dyddiau AgoredÌýÌý
- Diwrnod Agored Bach - Cofrestru Nawr) ÌýDydd Gwener, 24 Ionawr, 2025 (
- ÌýDydd Sadwrn, 5 Gorffennaf, 2025Ìý
- ÌýDydd Sul, 17 Awst, 2025
- ÌýDydd Sul, 12 Hydref, 2025
- ÌýDydd Sadwrn, 1 Tachwedd, 2025Ìý
- ÌýDydd Sadwrn, 22 Tachwedd, 2025Ìý
Archebu eich lle
Bydd modd archbu eich lle ar y Dyddiau Agored uchod ym mis Ionawr 2025.
Beth i'w ddisgwyl ar Ddiwrnod Agored
- Ìýfwy o fanylion am eich pwnc
- yfarfod staff dysgu a myfyrwyr presennol
- weld y llety i fyfyrwyr
- las ar fywyd myfyriwr ym Mangor
- ynychu cyflwyniadau ar bynciau fel bywyd myfyriwr a chyllid
- mgyfarwyddo ag adeiladau’r Brifysgol a dinas Bangor.
Gadewch i ni wybod ymlaen llaw drwy ebostio diwrnodagored@bangor.ac.uk os oes gennych chi, neu rywun fydd gyda chi, anabledd neu broblemau symud, fel y gallwn wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol.Ìý
Os nad ydych yn gallu dod i un o'r Dyddiau Agored, ebostiwch diwrnodagored@bangor.ac.ukÌýi drefnu ymweliad unigol i'r Brifysgol ar ddyddiad arall.Ìý
Diwrnod Agored Bach - Dydd Gwener, 24 Ionawr 2025
Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio cwrs israddedig ym Medi 2025, dewch i'r Diwrnod Agored Bach ar Ddydd Gwener, 24 Ionawr 2025.
Wedi gwneud cais am gwrs yn cychwyn ym Medi 2025? Dewch i Ddiwrnod i Ymgeiswyr
Os ydych wedi gwneud cais i astudio yma, cewch wahoddiad i Ddiwrnod i Ymgeiswyr drwy'r post / e-bost.Ìý
Paratoi ar gyfer Diwrnod Agored
Bydd y Diwrnod Agored yn ddiwrnod prysur felly dylech ddarllen y rhaglen a nodi popeth rydych yn gobeithio ei weld a’i wneud cyn dod i’r Diwrnod Agored.
Mae’n syniad ystyried yr holl gwestiynau posib cyn i chi ddod - efallai bod gennych gwestiynau i staff am y gofynion mynediad neu fodiwlau’r cwrs neu gwestiynau i fyfyrwyr presennol am fywyd myfyriwr ym Mangor e.e., y clybiau a’r cymdeithasau sydd yma.Ìý
Er bod rhan fwyaf o adeiladau’r Brifysgol o fewn pellter cerdded i’r prif adeilad lle byddwch yn cofrestru ar ôl cyrraedd, byddwch yn synnu faint o waith cerdded byddwch yn ei wneud yn ystod diwrnod agored felly gwisgwch esgidiau cyffyrddus y byddwch yn hapus i gerdded ynddynt trwy’r dydd. Ni allwn addo tywydd braf chwaith - felly dewch â chôt neu siaced gyda chi.
Rhaglen y Diwrnod Agored
Bydd rhaglen y Diwrnod Agored ar gael cyn y digwyddiad.
Pam Dewis Prifysgol Bangor?
Yn ogystal â’r addysgu rhagorol a’r adnoddau ardderchog, mae yna lawer o bethau eraill sy’n cyfrannu at wneud yÌýprofiad o astudio yma yn un unigryw.ÌýMae awyrgylch gyfeillgar i'r ddinas a chewch gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal â hynny, mae amgylchedd naturiol ein hardal gyfagos yn arbennig!
Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig
[0:04] Croeso i Ddiwrnod Agored Prifysgol Bangor!
[0:07] Welcome to Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ Open Day!
[0:29] Fedrwn i ddim meddwl am le gwell i roi hwb i'm gyrfa na Bangor.
[0:35] Dwi'n meddwl ei fod o'r penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed.
[0:51] Dewch i Fangor - rydych yn mynd i garu'r lle!
Gwybodaeth Ymarferol
Ar y ffordd
Bydd Cod Post LL57 2DG yn dod â chi i Brif Adeilad y Brifysgol, man cychwyn yÌýDiwrnod Agored. Mae sawl maes parcioÌý²ân agos i'rÌýBrif Adeilad y Brifysgol a hefyd yng nghanol y ddinas, ar Ffordd Deiniol.Ìý
Os dilynwch arwyddion y Diwrnod Agored o amgylch Bangor a byddwch yn cyrraedd un o'n meysydd parcio (lle mae parcio yn rhad ac am ddim). Yna bydd tywyswyr yÌýDiwrnod Agored yn rhoi cyfarwyddiadau i chi ar sut i gyrraedd y man cofrestru yn y Brif Adeilad.Ìý
Ar y tren neu fws
Ewch i wefanÌýÌý aÌýÌýam wybodaeth am drafnidiaeth cyhoeddus.
Mae pario ym meysydd parcio y Brifysgol yn rhad ac am ddim. Mae cyfleusterau Parcio a Theithio wedi cael eu trefnu ar gyfer y Diwrnod Agored – bydd arwyddion i’r safle Parcio a Theithio o ffyrdd yr A55/A5 wrth ddynesu at y Brifysgol, a threfnwyd bysus i gludo ymwelwyr y pellter byr i brif adeiladau’r Brifysgol o 8.30am-10.30am. Gall ymwelwyr hefyd barcio yn unrhyw un o feysydd parcio swyddogol y Brifysgol sydd o amgylch Prif Adeilad y Brifysgol ar Ffordd y Coleg - ond niferoedd cyfyngedig o lefydd sydd ar gael yma.
- Dilynwch yr arwyddion parcio a chludo i’r meysydd parcio ar gampws y gwyddorau ar Ffordd Deiniol NEU i’r rhai sydd angen lle parcio ceir i'r anabl, dewch yn syth i'r prif adeilad ar Ffordd y Coleg.
- Y peth cyntaf fydd rhaid i chi ei wneud ar ôl cyrraedd yw mynd i’r 'ardal fewngofnodi', sydd mewn pabell fawr tu allan i'r prif adeilad ar Ffordd y Coleg. Bydd staff a myfyrwyr ar gampws y gwyddorau ar Ffordd Deiniol yn eich cyfeirio at y bysiau parcio a chludo - neu gallwch gerdded trwy adeilad Pontio ac i fyny'r bryn i'r prif adeilad.
- Pan fydd y meysydd parcio ar gampws y gwyddorau ar Ffordd Deiniol yn llawn -Ìýneu os byddwch yn cyrraedd ar ôl 10.30amÌý- ewch yn syth i'r prif adeilad ar Ffordd y Coleg lle gwnaiff aelodau staff eich cyfeirio at y lleoedd parcio ceir sydd ar gael.
- Ar ôl cyrraedd y prif adeilad ar Ffordd y Coleg, ewch i’rÌý'ardal fewngofnodi'Ìýyn y babell fawr.ÌýBydd staff yno i'ch cyfarch a'ch cyfeirio at ran nesaf eich diwrnod.
- Ar ôl i chi fewngofnodi gyda staff yn y babell fawr,Ìýos byddwch yn ansicr ynglÅ·n â ble i fynd neu beth i'w wneud nesaf, gofynnwch i unrhyw un fydd naill ai’n gwisgo crys-t Bangor piws (myfyrwyr) neu grys-t gwyrddlas Bangor (aelodau staff).
- Byddwch yn gallu gwneud yn fawr o’r diwrnod agored os byddwch eisoes wedi penderfynu pa weithgareddau rydych eisiau mynd iddynt.
- Rydym yn cynnig cyflwyniadau pwnc trwy gydol y dydd i roi cyfle i chi fynd i fwy nag un cyflwyniad pwnc.
- Byddwch yn barod i bethau fod yn brysur ar brydiau - mae ein Diwrnodau Agored yn denu niferoedd mawr yn rheolaidd.
- Cofiwch fod rhaid i ni gyfyngu ar niferoedd ar gyfer rhai cyflwyniadau a theithiau, ond bydd y gweithgareddau'n cael eu hailadrodd trwy gydol y dydd.
- Byddwch yn barod i fod yn hyblyg - os bydd y cyflwyniad pwnc cyntaf byddwch eisiau mynd iddo yn llawn, cewch eich cyfeirio i gyflwyniadau eraill fel cyflwyniad yr is-ganghellor neu'r cyflwyniad llety neu efallai yr hoffech fynd ar un o’r teithiau yn lle gwrando ar gyflwyniad.
- Gall dewis mynd i wrando ar gyflwyniad pwnc ar amser gwahanol hefyd olygu y bydd y sesiwn yn dawelach, gan roi mwy o amser i chi ofyn cwestiynau neu siarad â staff a myfyrwyr.
- Cofiwch ymweld â'rÌýArddangosfa Diwrnod Agored yn Neuadd Prichard-JonesÌý(Neuadd PJ, Prif Adeilad). Mae'r arddangosfa yn dwyn ynghyd yr holl ysgolion/colegau academaidd ac amrywiaeth eang o wasanaethau cefnogi yn yr un lle. Er enghraifft, os oes gennych gwestiwn penodol am ofynion mynediad cwrs, os ydych eisiau gwybod mwy am gymorth anabledd, neu gael gwybod mwy am gyfleusterau chwaraeon neu glybiau a chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr - bydd y stondinau arddangos perthnasol yn Neuadd PJ gyda staff a myfyrwyr yno i ateb eich cwestiynau.
- Gwnewch yn fawr o’r cyfle i siarad â myfyrwyr sy'n astudio'r cwrs sydd o ddiddordeb i chi. Byddant yn hapus i ateb eich cwestiynau a dweud wrthych am eu profiad o astudio'r cwrs hwnnw.
- Peidiwch â gadael yn gynnar - cofiwch sicrhau eich bod yn gweld popeth y gallwch ei weld, bydd yn werth chweil i chi.
- Gwnewch nodiadau a thynnwch luniau ar eich ffôn i helpu i gofio pethau’n nes ymlaen.
- Mae’r lleoliadau a'r adeiladau sy'n cael eu defnyddio ar gyfer y Diwrnod Agored wedi eu hamlygu arÌýyÌýrhaglen, ond os ydych yn ansicr ble i fynd neu beth i'w wneud nesaf, gofynnwch i unrhyw un naill ai mewn crys-t piws Bangor (arweinwyr cyfoed) neu grys-t gwyrddlas Bangor (aelodau staff).
- DarperirÌýte a choffi am ddimÌýtrwy gydol y dydd yn yr ardal arddangos ynÌýNeuadd PJÌýyn yÌýPrif Adeilad.
- MaeÌýlleoedd bwyta’rÌýbrifysgol wedi eu marcio ar y map yn yÌýrhaglen, Maent ar agor rhwng 9am a 4pm ac yn derbyn taliadau â cherdyn yn unig. Gallent fod yn llawn ar yr adegau prysuraf, felly ystyriwch gymryd cinio yn gynharach neu'n hwyrach efallai.
- YmÌýMhrif Adeilad y BrifysgolÌýmaeÌýCaffiÌýTeras,Ìýsy'nÌý gwerthu rholiau brecwast a chacennau yn y bore a phryd poeth y dydd, cawl cartref, brechdanau, paninis a byrbrydau yn y prynhawn.Ìý
- Yn adeiladÌýPontio,ÌýmaeÌýCeginÌýar lefel 2, yn gwerthu Bagels, pitsa, cawl cartref, salad, tatws trwy’u crwyn, byrbrydau a chacennau aÌýFfynnonÌýar y llawr isaf, yn gwerthu diodydd poeth ac oer, brechdanau a byrbrydau.
MaeÌýCanolfan RheolaethÌý²â Brifysgol yn cynnig llety 4*. Mae ystafelloedd sengl hefyd ar gael yn ein llety en-suite ar y campws -Ìýarchebwch ar ein gwefan. I’r rheiny ohonoch sy’n dymuno gwneud eich trefniadau eich hunain, ewch i wefanÌý.Ìý
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor?ÌýMae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?Ìý
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus y pwnc hwn ym Mangor?Ìý
- Beth allai wneud i baratoi at astudio'r pwnc hwn ym Mangor?Ìý
- Sut ydw i yn gwybod mai'r pwnc hwn ym Mangor yw’r dewis iawn i mi?Ìý