Mae fy amser ym Mangor wedi bod yn hudolus ac yn well nag yr oeddwn erioed wedi ei ddisgwyl. Rwyf wedi dysgu llawer, o gyllid, cyfrifeg, marchnata i reoli brand. Yr hyn rydw i wedi'i fwynhau fwyaf yw'r ffaith ei fod mor eang, felly gallaf benderfynu i arbenigo mewn unrhyw le rydw i eisiau. Mae'n mynd i fy helpu i wireddu fy mreuddwydion a bod yn bopeth rydw i erioed wedi dymuno bod.
Dechreuodd fy amser ym Mangor yn ystod y pandemig. Roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n cael amser caled ac yn teimlo'n unig ymhell o fy nghartref, ond roeddwn i'n ddiolchgar i gael darlithwyr mor gefnogol ac ymroddedig. Cwrddais 芒 chymaint o bobl anhygoel eraill a chael rhai o'r atgofion gorau. Bydd y gwersi a ddysgais yma ym Mangor yn aros gyda mi am amser hir. Mae'n bryd symud ymlaen i bennod nesaf fy mywyd.
Rydw i wir yn mwynhau fy amser yn astudio'r Gyfraith ym Mangor. Mae鈥檙 addysgu bob amser yn wych, ac mae鈥檙 sesiynau tiwtorial, a arweinir gan ddarlithwyr, yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gymryd rhan mewn sesiynau gr诺p llai er mwyn gofyn cwestiynau a chael gwell dealltwriaeth o bob pwnc. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn i mi.