Mae dwyieithrwydd yn rhan naturiol o fywyd ym Mhrifysgol Bangor. Nid yw hyn yn fawr syndod gan ystyried fod Bangor wedi ei lleoli yn y sir gyda鈥檙 % uchaf o siaradwyr Cymraeg. Yn wir mae gan tua 70% o鈥檔 staff sgiliau yn y Gymraeg. Mae modd felly i chi dderbyn cefnogaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob agwedd o鈥檆h bywyd fel myfyriwr yma, gan gynnwys adran Gwasanaethau Myfyrwyr.
Yn academaidd, fe sylwch fod y darlithoedd a grwpiau seminar cyfrwng Cymraeg yn dueddol o fod yn llai o ran maint sy鈥檔 golygu fod y myfyrwyr yn dueddol o deimlo鈥檔 fwy cyfforddus ynddynt. O ganlyniad felly, mae mwy o gyfle i鈥檙 myfyrwyr hynny holi cwestiynau i鈥檞 darlithwyr a derbyn ychydig mwy o gefnogaeth.
Ceir cymuned Gymraeg gref ymysg ein myfyrwyr tu hwnt i鈥檙 darlithoedd hefyd, yn enwedig drwy weithgareddau聽聽sef Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor.
Hyderwn felly y byddai unrhyw fyfyriwr sy鈥檔 siaradwr Cymraeg, waeth pa mor rhugl, yn teimlo鈥檔 gartrefol iawn ym Mhrifysgol Bangor ac mai dyma鈥檙 lle gorau ar eich cyfer i gael defnyddio a datblygu eich sgiliau iaith Gymraeg.
Cymerwch olwg yma ar yr holl fanteision sydd o astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a'r gefnogaeth sydd ar gael i'ch cynorthwyo i wneud hynny, yn ogystal 芒 chylwed gan ein myfyrwyr a darlithwyr.