Dewis Modiwlau
Dewis o fewn eich rhaglen astudio
Rydym yn gweithredu cynllun astudio modiwlaidd ym Mangor sy’n golygu bod pob rhaglen yn cynnwys ‘blociau dysgu’ a elwir yn fodiwlau. Caiff ein holl fodiwlau raddfa gredyd sy’n dangos faint yw gwerth modiwl os caiff ei gwblhau’n llwyddiannus. Mae cyrsiau israddedig yn cynnwys modiwlau sy’n cyfateb i 120 credyd ar gyfer pob blwyddyn astudio lawn-amser.
Cofrestru ar gyfer y nifer cywir o fodiwlau
Os ydych yn fyfyriwr llawn-amser bydd rhaid i chi gofrestru ar gyfer modiwlau sy’n cyfateb i 120 credyd yn ystod blwyddyn academaidd 2024/25. Credir bod y flwyddyn lawn-amser 120 credyd yn gyfwerth â 1200 awr o amser dysgu – h.y. 30 wythnos o astudio llawn-amser dros y ddau semester gyda chyfanswm o 40 o oriau dysgu bob wythnos. Rydych yn cael eich cynghori i gymryd 60 credyd ym mhob semester, fel bod eich gwaith wedi ei ddosbarthu’n wastad drwy gydol y flwyddyn.
Bydd rhai modiwlau yn rhai gorfodol o fewn eich cwrs ond efallai y bydd modiwlau dewisol hefyd. Ar y rhan fwyaf o'r cyrsiau, byddwch yn gallu dewis y modiwlau yma fel rhan o’r broses cofrestru ar-lein ac ar y rhai eraill bydd eich Tiwtor Personol neu gynghorwr o fewn eich Ysgol yn gallu eich helpu i ddewis.
Dewis modiwlau y tu allan i’ch prif Ysgol
Efallai byddwch yn dymuno astudio modiwlau y tu allan i’ch prif faes pwnc e.e. dysgu iaith arall neu wella eich sgiliau Technoleg Gwybodaeth. Gyda chymaint o fodiwlau ar gael, mae trafod efo'r eich Tiwtor a mynychu'r sesiynau cynghori Ysgol yn bwysig iawn. Un ‘cyfyngiad’ all effeithio ar eich dewis yw’r amserlen ddysgu, a dylech sicrhau nad yw’r modiwlau y dymunwch eu hastudio yn gwrthdaro â’i gilydd.
Er mwyn eich cynorthwyo i ddewis eich modiwlau, 'rydym yn darparu  sy'n rhoi manylion yr holl fodiwlau a gynigir yn 2024/25.
Gellwch wneud newidiadau hyd at bythefnos ar ôl dechrau semester, ond rhaid sicrhau eich bod yn dilyn y drefn swyddogol i sicrhau bod cofnod y Brifysgol o’r rhaglen yr ydych wedi cofrestru ar ei chyfer yn gywir.
Ieithoedd i Bawb
Mae'r cynllun Ieithoedd i Bawb, a gyllidir gan y Brifysgol ac Erasmus+, wedi ei gwneud yn bosib i holl fyfyrwyr Prifysgol Bangor gofrestru ar un modiwl AM DDIM bob semester (os oes lle ar gael). Mae Ieithoedd i Bawb yn cynnig dosbarthiadau nos am ddim i fyfyrwyr mewn pum iaith: Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg, Tsieinëeg (Mandarin).
Bydd y modiwlau yn y modd gwrando yn unig – mae hynny'n golygu na fydd asesiad ffurfiol o'r modiwl ac ni fydd unrhyw gredydau'n cael eu dyfarnu ar ôl cwblhau'r modiwl. Â
Mae'r cyrsiau 10-wythnos ar gael i fyfyrwyr ar bob lefel, a bydd yr holl sesiynau wyneb yn wyneb yn cael eu cyflwyno yn Adeilad Celfyddydau Newydd (Ystafelloedd Darlithio 1-5) a Phrif Adeilad y Celfyddydau (Ystafell Ymarfer Drama).Â
Cofrestrwch ar gyfer y cynllun Ieithoedd i Bawb yma.
(Unwaith y byddwch wedi cofrestru, gwiriwch Blackboard yn aml am fanylion pellach a diweddariadau.)