FyMangor
Dyma'r wefan fewnol y byddwch yn ei defnyddio i weld eich amserlen, eich marciau, a'n hamgylchedd dysgu rhithwir.Â
Unwaith y byddwch wedi cofrestru a chael eich enw defnyddiwr a chyfrinair Prifysgol, ewch i a dechrau pori!Â
Bwletin Myfyrwyr
Mae'r Bwletin Myfyrwyr, a lansiwyd yn 2020 o ganlyniad i'r pandemig Covid, yn gylchlythyr wythnosol sy'n cael ei anfon at bob myfyriwr yn wythnosol.Â
Nod y Bwletin yw rhoi gwybod i chi am wybodaeth bwysig, ac rydym hefyd yn cynnwys gwybodaeth am gyfleoedd a digwyddiadau i’ch helpu i wneud y gorau o’ch amser ym Mangor.
Mae’r Bwletin yn cynnwys bob math o bethau:
- Gwybodaeth a newyddion pwysig yn ymwneud â'r Brifysgol
- Cyfleoedd fel swyddi, interniaethau a gwirfoddoli
- Digwyddiadau fel sgyrsiau yn ymwneud â chyrsiau, gweithdai cyflogadwyedd, digwyddiadau Campws Byw, a digwyddiadau i fyfyrwyr rhyngwladol
- Unrhyw beth arall y credwn y byddai yn cyfoethogi eich profiad ym MangorÂ
Mae’r Bwletin yn eithaf anffurfiol – rydyn ni’n ei gadw mor ysgafn â phosib gydag ambell lun ac animeiddiad doniol yma ac acw. , a pheidiwch ag anghofio gwirio eich e-bost Prifysgol am eich copi wythnosol.