Os ydych chi'n dewis byw yn y sector preifat, neu os ydych yn byw yng nghyffiniau Bangor ac yn bwriadu teithio i Fangor bob dydd yn bendant mae angen i chi fod ym Mangor erbyn 27 o Ionawr.
Chwilio am Lety Preifat?
Os ydych chi'n chwilio am lety yn y sector preifat neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau yn ymwneud 芒'ch tenantiaeth, ewch i wefan y Swyddfa Tai Myfyrwyr am ragor o wybodaeth a manylion cyswllt.
A fyddwch yn byw gartref yn ystod eich astudiaethau?
Cofiwch fod yr Wythnos Groeso ar gyfer POB myfyriwr newydd, p'un a ydych yn teithio i'r Brifysgol yn ddyddiol, yn byw yn llety'r Brifysgol, neu'n byw mewn llety preifat.
Mae'n arbennig o bwysig eich bod yn dod i鈥檙 digwyddiadau hyn os ydych yn byw gartref yn ystod eich astudiaethau. Ynghyd 芒 digwyddiadau academaidd gorfodol, bydd digon o gyfle i gymdeithasu hefyd, fel y gallwch wneud y canlynol:
- cyfarfod 芒 myfyrwyr newydd eraill
- dysgu mwy am beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr
- cyfarfod 芒 staff a myfyrwyr presennol
- dod o hyd i'ch ffordd o gwmpas y Brifysgol.
Gallwch weld eich amserlen ar gyfer yr Wythnos Groeso yma.
Trwydded Parcio Car
CEIR RHAGOR O WYBODAETH AR SUT I GAEL TRWYDDED PARCIO MYFYRWYR YMA
Amserlen
Dylai eich amserlen bersonol fod ar gael 4 diwrnod gwaith ar 么l i chi gofrestru ar-lein. Fe welwch eich amserlen ar fyMangor .
Os credwch fod eich amserlen yn anghywir neu ar goll, cysylltwch 芒'r T卯m Gweinyddu Myfyrwyr drwy ymweld 芒 nhw ar lawr cyntaf Prif Adeilad y Celfyddydau neu drwy anfon e-bost at gweinyddiaeth-myfyrwyr@bangor.ac.uk
Cefnogaeth Cyn Dechrau
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyn yr Wythnos Groeso neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar fywyd y Brifysgol, mae croeso i chi gysylltu 芒 ni drwy anfon e-bost at cefnogimyfyrwyr@bangor.ac.uk.