鶹ý

Fy ngwlad:
Students in language sessions

Ieithoedd i Bawb: Amserlen Ieithoedd i Bawb 2024-25


Cofrestrwch nawr ar gyfer ein cyrsiau 2024 – 2025 sydd yn dechrau mis Hydref 2024

Ydych chi erioed wedi bod eisiau dysgu iaith arall? Nawr yw eich cyfle chi i wneud hynny.

Mae’n cyrsiau ar gael i staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor, yn ogystal â phobl y tu allan i’r Brifysgol.

Ystafelloedd Darlithio

Mae Ystafelloedd Darlithio 1,2,3,4,5 i gyd ar y llawr cyntaf, Prif Adeilad y Celfyddydau (Bangor LL57 2DF), trowch i'r chwith ar ben y grisiau. Mae gan yr adeilad hwn faes parcio, sydd fel arfer am ddim gyda'r nos.

Cynhelir sesiynau ar-lein ar Blackboard: . Wedi cofrestru, os cewch unrhyw broblemau wrth gael mynediad at eich e-bost Prifysgol Bangor neu safle Blackboard ar gyfer eich modiwl(au), cysylltwch â: cyrsiaubyr@bangor.ac.uk.

Os gwelwch yn dda, unwaith y byddwch wedi cofrestru, gwiriwch Blackboard yn aml am fanylion pellach a diweddariadau.

Amserlen Ieithoedd i Bawb

Mae pob modiwl iaith yn cynnwys 10 sesiwn, un sesiwn/wythnos. Mae rhai cyrsiau’n cael eu cynnig wyneb yn wyneb, rhai eraill ar-lein. Porwch i lawr i wirio pa gyrsiau sydd ar gael ym mhob fformat. Mae’r holl ddosbarthiadau’n cael eu cynnal gyda’r nos, o 30 Medi 2024 (Semester 1).

SEMESTER 1

  • Dechrau: 6.10 pm. Toriad: 7.00-7.10 pm. Diwedd: 8 pm.
  • Sesiwn gyntaf: wythnos yn dechrau 7 Hydref 2024.
  • Wythnos ddarllen (1 wythnos, dim sesiynau): wythnos yn dechrau 4 Tachwedd 2024.
  • Sesiwn olaf: wythnos yn dechrau 16 Rhagfyr 2024.

SEMESTER 2

  • Dechrau: 6.10 pm. Toriad: 7.00-7.10 pm. Diwedd: 8 pm.
  • Sesiwn gyntaf: wythnos yn dechrau 3 Chwefror 2025.
  • Wythnos ddarllen (1 wythnos, dim sesiynau): wythnos yn dechrau 3 Mawrth 2025.
  • Toriad y gwanwyn (3 wythnos, dim sesiynau): wythnos yn dechrau 14 Ebrill 2025.
  • Sesiwn olaf: wythnos yn dechrau 5 Mai 2025.

DYDDIAD CAU COFRESTRU AR GYFER SEMESTER 1: Dydd Mawrth 30fed o Medi 2024

DYDDIAD CAU COFRESTRU AR GYFER SEMESTER 2: Dydd Mawrth 12 Rhagfyr 2024

Sylwch: (1) Mae cyrsiau’n cael eu cynnal yn amodol ar niferoedd lleiaf; (2) Mae llawer o ddosbarthiadau’n boblogaidd - gan fod nifer y dosbarthiadau’n gyfyngedig, bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Rydym yn argymell eich bod yn cofrestru cyn gynted â phosibl i osgoi siom; (3) Er bod y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir yn gywir, gall yr amserlenni newid

Modiwl ac amserlenni Semester 1 a 2

FFRANGEG

Dechreuwyr [Cod LXN-1021], lefel A1. Dydd Llun (LR1).
Canolradd [Cod LXN-1051], lefel A2. Dydd Mawrth (LR1).
Uwch [Cod LXN-1023], lefel B1. Dydd Mercher (LR1).

SBAENEG

Dechreuwyr [Cod LXN-1012], lefel A1. Dydd Mawrth (LR2).
Canolradd [Cod LXN-1043], lefel A2. Dydd Mercher (LR2).
Uwch [Cod LXN-1041], lefel B1. Dydd Iau (LR2).

ALMAENEG

Dechreuwyr [Cod LXN-1001], lefel A1. Dydd Iau (LR3).
Canolradd [Cod LXN-1031], lefel A2. Dydd Mawrth (LR5).

EIDALEG

Dechreuwyr [Cod LXN-1071], lefel A1. Dydd Mawrth (LR5).
Canolradd [Cod LXN-1073], lefel A2. Dydd Iau (ar-lein).

TSIEINEEG

Dechreuwyr [Cod LXN-1401], lefel HSK1. Dydd Llun (ar-lein).
Canolradd [Cod LXN-1073], lefel A2. Dydd Mawrth (ar-lein).
Uwch [Cod LXN-1075], lefel B1. Dydd Mercher (ar-lein).

SYLWER: Mae modiwlau “Plus” yn barhad o fodiwlau Semester 1. E.e. os oeddech yn gwneud “LXN-1021 Ffrangeg – Dechreuwyr” yn semester un, yn semester 2 dylech gofrestru i “LXN-1022 Ffrangeg – Dechreuwyr Plus”.


FFRANGEG

Dechreuwyr Plus [Cod LXN-1524], lefel A1+. Dydd Llun (LR1).
Canolradd Plus [Cod LXN-1073], lefel A2+. Dydd Mawrth (LR1).
Uwch Plus [Cod LXN-1075], lefel B1+. Dydd Mercher (LR1).


SBAENEG

Dechreuwyr Plus [Cod LXN-1524], lefel A1+. Dydd Mawrth (LR2).
Canolradd Plus [Cod LXN-1073], lefel A2+. Dydd Mercher (LR2).
Uwch Plus [Cod LXN-1075], lefel B1+. Dydd Iau (LR2).

ALMAENEG

Dechreuwyr Plus [Cod LXN-1524], lefel A1+. Dydd Iau (LR3).
Canolradd Plus [Cod LXN-1073], lefel A2+. Dydd Mawrth (LR3).


EIDALEG

Dechreuwyr Plus [Cod LXN-1072], lefel A1+. Dydd Mawrth (LR5).
Canolradd Plus [Cod LXN-1074], lefel A2+. Dydd Iau (ar-lein).


TSIEINEEG

Dechreuwyr [Cod LXN-1527], lefel HSK1. Dydd Iau (ar-lein).
Dechreuwyr Plus [Cod LXN-1524], lefel HSK1+. Dydd Llun (ar-lein).
Canolradd Plus [Cod LXN-1073], lefel HSK2+. Dydd Mawrth (ar-lein).
UwchPlus [Cod LXN-1075], lefel HSK3+. Dydd Mercher (ar-lein).

Rhagor o wybodaeth

Edrychwch ar y daflen Gwybodaeth i Fyfyrwyr am ragor o wybodaeth am y gwahanol lefelau, codau modiwlau a'r amserlen. Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â ni: cyrsiaubyr@bangor.ac.uk.