Mwy am yr Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau

Ruth McElroy

Os ydych chi'n frwd dros eich pwnc ac yn awyddus i gael eich herio a'ch ysgogi i gyrraedd eich potensial, Ysgol y Celfyddydau, Diwylliant ac Ieithoedd yw'r lle gorau i chi.

Dros bron i ganrif a hanner o ddysgu鈥檙 celfyddydau, diwylliant ac ieithoedd, sefydlodd Bangor ei hun yn ganolfan ragoriaeth genedlaethol a rhyngwladol yn y maes.

Mae Ysgol y Celfyddydau, Diwylliant, ac Ieithoedd yn gartref i dros 50 o staff academaidd a thros 50 o diwtoriaid, ac rydym yn anelu at ddysgu鈥檙 myfyrwyr mewn dosbarthiadau bach.

Mae gan yr ysgol gyfleusterau ymchwil ac addysgu rhagorol, ac mae hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol at agenda ddinesig y Brifysgol ac at ymgysylltu 芒鈥檙 cyhoedd yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'r Ysgol ar flaen y gad yng nghenhadaeth y Brifysgol i sefydlu ethos ac amgylchedd gwaith dwyieithog o鈥檙 radd flaenaf o safon ryngwladol.

Canolfannau Ymchwil

Y Ganolfan Astudiaethau Arthuraidd

Mae'r ganolfan newydd hon yn tynnu sylw at y cyfoeth o arbenigedd a'r traddodiad o ymchwilio a dysgu yn y maes Arthuraidd a geir ym Mangor ers sefydlu'r brifysgol ym 1884.聽

Y Ganolfan dros Farddoniaeth Gyfoes (ContemPo)

Mae'r Ganolfan dros Farddoniaeth Gyfoes (a elwir yn anffurfiol yn 'ContemPo') yn ganolfan ymchwil draws-sefydliadol, gydweithredol a sefydlwyd yn 2006.

Y Ganolfan Astudiaethau Ffilm, Teledu a Sgrin

Mae'r ganolfan newydd hon yn dwyn ynghyd ysgolheigion o ddisgyblaethau ar draws Prifysgol Bangor sy'n addysgu ac ymchwilio i wahanol agweddau ar astudiaethau ffilm, teledu a sgrin.

Y Ganolfan Astudiaethau Galisaidd yng Nghymru

Fforwm ar gyfer ymchwil ar Galicia gyfoes. Mae materion yn ymwneud 芒 dwyieithrwydd a hunaniaeth ddiwylliannol a'u perthnasedd i ddiwylliant Galicia a diwylliant Cymru o ddiddordeb arbennig i'r fforwm.

Mwy

Canolfan Ymchwil i Ddwyieithrwydd

Mae'r ganolfan wedi ei lleoli ym Mhrifysgol Bangor ac yn gweithredu ar draws nifer o ysgolion a cholegau. Mae ymchwil ym maes dwyieithrwydd yn seiliedig ar sawl disgyblaeth, gan gynnwys dwyieithrwydd, seicoleg, niwrowyddoniaeth, addysg, cymdeithaseg, economeg a gwyddor wleidyddol.

Mwy

Canolfan Ymchwil R.S. Thomas

Agorwyd y Ganolfan yn swyddogol gan R.S. Thomas ym mis Ebrill 2000. Mae ei archif yn cynnwys y cyfan mae R.S.Thomas wedi ei gyhoeddi, ynghyd 芒 chasgliad cynhwysfawr o adolygiadau, llyfrau beirniadol ac erthyglau, cyfweliadau a deunydd clyweledol. Mae'r deunydd hwn ar gael i ysgolheigion gwadd.

Canolfan Ymchwil Cymru

Mae Canolfan Ymchwil Cymru yn dwyn ynghyd pawb ym Mhrifysgol Bangor sy'n gweithio ar Gymru yn Gymraeg a Saesneg ar draws y Celfyddydau a'r Dyniaethau ac mewn maes polisi iaith.

Stephen Colclough Centre for the History and Culture of the Book

Mae Canolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr yn ganolfan ryngddisgyblaethol i astudiaethau uwch o'r llyfr fel arteffact, yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol, ac o'r diwylliannau sy'n gysylltiedig 芒'r llyfr.

Unedau Academaidd-gysylltiedig:

Mae gan yr ysgol dair o unedau academaidd-gysylltiedig

Academyddion Rhagorol

Dyma Ysgol amrywiol ond cydgysylltiedig sy鈥檔 cynnal cymuned o academyddion ac ymarferwyr creadigol rhagorol a nodedig sy'n cynhyrchu ymchwil o'r radd flaenaf mewn meysydd o gryfder craidd gan gynnwys y Gymraeg, Astudiaethau Celtaidd, Astudiaethau Diwylliannol Rhyngddisgyblaethol, Ysgrifennu Creadigol, Cerddoleg a Chyfansoddi, Perfformio a Ffilm, Ieithyddiaeth a Chynllunio Ieithyddol, Testunau Materol a Diwylliannau Materol, a Chysylltiadau Diwylliannol ledled Cymru, Ewrop a'r Byd.

Cyfleusterau

Yn gefn i鈥檙 addysgu a'r ymchwil mae archifau a chasgliadau arbennig eithriadol a chyfleusterau llyfrgell a digidol rhagorol ac ymgysylltiad dwfn 芒'r dyniaethau digidol.

Amlieithog

Mae'r Ysgol, fel Bangor a'r cymunedau cyfagos, yn amlieithog; defnyddir y Gymraeg a'r Saesneg yn yr ysgol at ddibenion cyfathrebu, addysgu ac ymarfer creadigol, ac mae鈥檙 staff a鈥檙 myfyrwyr yn siarad ac yn astudio amrywiaeth o ieithoedd gwahanol.聽 Mae gan yr ysgol agwedd fwriadol ryngwladol at ymchwil, a hynny鈥檔 seiliedig ar ein hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol unigryw a'n lleoliad rhyfeddol,聽 Mae'n ymgysylltu ag ysgolheigion ledled y byd, mae鈥檔 ymgymryd ag ymchwil gymharol a rhyngwladol a ariennir yn allanol ac mae鈥檔 gartref i gymuned o staff a myfyrwyr rhyngwladol.

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?