Edrychwch ar y disgrifyddion isod i werthuso’r lefel ddelfrydol ar gyfer eich gofynion chi. Os nad ydych yn siŵr pa lefel sydd orau i chi, siaradwch gyda’r tiwtor ar y noson cyntaf am gyngor ac arweiniad.
DechreuwyrÌý(CEFR*: A1):ÌýRydych yn ddechreuwr pur, heb nemor ddim gwybodaeth o’r iaith. Byddwch yn dod yn fedrus mewn amrywiaeth o dasgau iaith syml, mewn sefyllfaoedd bob dydd y gellir eu rhagweld. Bydd y cwrs yn rhoi gwybodaeth sylfaenol iawn o gystrawen a geirfa’r iaith.
DechreuwyrÌýa mwyÌý(CEFR*: A1+):ÌýEfallai y byddwch wedi astudio’r iaith yn yr ysgol ers rhai blynyddoedd neu ddilyn cwrs dechreuwyr. Mae gennych eirfa gyfyngedig iawn a rhywfaint o ddealltwriaeth o’r cystrawennau sylfaenol. Bydd y cwrs yn cyflwyno amseroedd newydd y ferf a’ch helpu i gyfathrebu mewn sefyllfaoedd bob dydd, yn gymdeithasol neu yn y gwaith..
CanolraddÌý(CEFR*: A2):ÌýMae gennych sylfaen resymol yn yr iaith ar lefel ysgol, efallai i lefel-O/TGAU neu gyfwerth. Gellwch ymdrin yn hyderus â’r rhan fwyaf o sefyllfaoedd o ‘raid’. Yn awr, rydych yn awyddus i symud y tu hwnt i ymarfer iaith syml yn unig yn ystod eich gwyliau tramor, a dysgu ymdopi mewn sefyllfaoedd nad ydynt yn codi’n rheolaidd.
Canolradd a mwyÌý(CEFR*: A2+):Ìý Mae gennych sylfaen gadarn yn yr iaith ar lefel ysgol, bron yn sicr i lefel-O/TGAU neu gyfwerth. Gellwch ymdrin yn hyderus â’r rhan fwyaf o sefyllfaoedd cyffredin. Yn awr, rydych yn awyddus i symud y tu hwnt i ymarfer dialogau syml yn unig yn ystod eich gwyliau neu’ch taith dramor ar gyfer eich gwaith, a dysgu ymdopi mewn sefyllfaoedd a chyfrannu at sgyrsiau o ddiddordeb cyffredin.
UwchÌý(CEFR*: B1): Mae gennych eirfa dda a dealltwriaeth weddol o reolau sylfaenol gramadeg a sut i’w defnyddio. Rydych yn teimlo’n hyderus, o fewn rheswm, wrth siarad yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd cyffredin, yn gymdeithasol ac yn y gwaith, ac rydych wrthi’n dod yn rhugl wrth ddarllen ac ysgrifennu. Yn awr, rydych yn awyddus i ddefnyddio’r iaith yn fwy hyblyg a defnyddio’r termau sy’n briodol i’r cyd-destun.
Uwch a mwyÌý(CEFR*: B1+):ÌýMae gennych eirfa dda a dealltwriaeth dda o reolau gramadeg. Mae eich medrau siarad a gwrando yn eich galluogi i deimlo’n gymharol hyderus ran amlaf, boed hynny’n gymdeithasol neu yn y gwaith. Rydych yn deall amrywiaeth eang o destunau anodd a hir ac yn llunio testunau clir a strwythuredig. Yn awr, rydych yn awyddus i fynegi eich hun yn rhugl a digymell, heb ryw lawer o chwilio am ymadroddion, ac i ddefnyddio’r iaith yn hyblyg ac yn effeithiol at ddibenion cymdeithasol, academaidd a phroffesiynol.
*CEFR = Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin o ran lefelau iaith.
Am fwy o wyboaethÌýcysytwch â ni.