Deon Colegau a Cyfarwyddwyr Gwasanaethau
Felly beth sydd angen imi ei wneud?
Mae pob Deon Colegau a Cyfarwyddwyr Gwasanaethau yn gyfrifol am gynllunio, gweithredu, monitro ac arolygu camau a gymerir i reoli risg sy’n deillio o weithgareddau eu Coleg neu eu Gwasanaeth, ac am sicrhau bod yr adnoddau sy’n angenrheidiol ar gyfer y gwaith hwn yn cael eu dynodi.
Mae hon yn swnio’n anferth o dasg – lle rwy i fod i gychwyn?
Nid yw rheoli risgiau iechyd a diogelwch yn wahanol o gwbl i reoli unrhyw agwedd arall ar risg busnes, gan mai’r un systemau ac arferion rheolaethol a ddefnyddir; a gwelliant cyson yn nod allweddol o ran ansawdd.
P’un a ddefnyddiwch y dull “Cynllunio-Gwneud-Gwirio-Gweithredu” (plan-do-check-act) neu system gyffelyb, rhaid rheoli risgiau iechyd a diogelwch – yn yr un modd ag y byddech yn rheoli unrhyw beth arall.
Eich Polisi Iechyd a Diogelwch
Yn gyntaf, dylai pob Coleg / Adran lunio polisi iechyd a diogelwch addas a digonol, sy’n rhoi sylw i holl agweddau allweddol ei weithgareddau a’i risgiau. Dylai hwn nodi manylion am y modd y rheolir iechyd a diogelwch o fewn y Coleg / Gwasanaeth. Dylai’r Polisi fod yn seiliedig ar asesiad risg cychwynnol ar y peryglon a’r risgiau a geir yn eich Coleg / Gwasanaeth, a bod wedi’i strwythuro fel ei fod yn hawdd ei ddeall, fel bod y ddogfen yn defnyddiol ac nad yw’n diweddu’n byw ar silffoedd llyfrau yn hel llwch.
Trefnu ar gyfer Iechyd a Diogelwch
Dylai eich polisi nodi’n glir sut y rheolir risgiau iechyd a diogelwch o fewn y Coleg / Gwasanaeth, a dylai eich trefniadaeth ar gyfer rheoli iechyd a diogelwch adlewyrchu system reoli gyffredinol y Coleg neu’r Adran.
Cynllunio a mesur perfformiad
Dylid sefydlu dull trefnus o weithredu eich polisi iechyd a diogelwch trwy system effeithiol o reoli iechyd a diogelwch. Dylai’r system hon gynnwys mesuriadau perfformiad i ddangos pryd a lle mae angen gwella.
Archwilio ac arolygu perfformiad
Dylai eich Coleg / Adran ddysgu o’i holl brofiadau perthnasol a defnyddio’r gwersi a ddysgwyd i sicrhau y ceir arolwg trefnus ar berfformiad, ar sail data o fonitro ac o archwiliadau ar yr holl system reoli iechyd a diogelwch.
Hyfforddi eich staff
Mae angen i chi, eich staff a’ch myfyrwyr gael elfen o hyfforddiant iechyd a diogelwch, yn adlewyrchu’r peryglon posibl a allai fod yn agored ichi. Dylech hefyd asesu anghenion am hyfforddiant o leiaf yn flynyddol, ac o bosibl fel rhan o’ch trefn arolygu staff.
Dylai eich Cydlynydd Diogelwch gael hyfforddiant penodol ar gyfer ei swyddogaeth, a bod yn barod i ddiweddaru a datblygu ei (h)arbenigedd a’i (g)werth i chi ac i’ch Coleg / Gwasanaeth yn gyson. Ar ben hynny, rhaid i bob aelod staff sy’n wynebu risg penodol gael cyfarwyddyd / hyfforddiant ynglÅ·n â sut i osgoi a/neu reoli’r risg hwnnw; yn aml; gellir gwneud hyn trwy arolygydd, neu’n uniongyrchol trwy’r Cydlynydd Diogelwch.
Rhaid i bob Coleg sicrhau bod pob myfyriwr yn cael sesiwn ymgynefino addas ar iechyd a diogelwch ar ddechrau eu hastudiaethau. Dylai’r sgwrs hon fod mor hir ac mor gynhwysfawr ag y mae’r risgiau’n gofyn a, lle bo hynny’n briodol , dylid ychwanegu ati trwy gydol y flwyddyn academaidd wrth roi cyfarwyddyd mwy penodol sy’n berthnasol i dasgau a gweithgareddau penodol (megis gwaith maes a theithio dramor).
Cewch gyngor penodol ar hyfforddiant mewn iechyd a diogelwch o’r tim canolog Iechyd a Diogelwch.
Penodi pobl allweddol i helpu
Bydd penodiad Cydlynydd Diogelwch dros y Coleg / Adran yn un o’ch penodiadau allweddol. Bydd Cydlynydd Diogelwch da a gwybodus yn eich rhyddhau oddi wrth faich a allai fod yn sylweddol, am y byddwch yn gwybod bod y dasg feunyddiol o oruchwylio iechyd a diogelwch o fewn eich Coleg / Adran yn cael ei chyflawni yn y modd priodol. Fodd bynnag, bydd angen cymorth, amser a chefnogaeth ar eich Cydlynydd Diogelwch fel y gall ymgymryd â’r swydd hon ond, yn bwysicach fyth, bydd arno/arni angen cydweithrediad pawb o fewn y Coleg / Adran.
Asesiadau risg
Nid yw asesiad risg yn dim mwy nag archwiliad gofalus ar yr hyn a allai, o fewn eich Coleg / Gwasanaeth, achosi niwed i bobl, fel y gellwch chi, yn eich tro, bwyso a mesur a ydych wedi cymryd digon o ragofalon, ynteu a ddylech wneud mwy er mwyn atal niwed rhag digwydd.
Dylid cynnal asesiadau risg ar yr holl beryglon o bwys a’u harolygu’n gyson.