Amdanom Ni
Cyswllt: 01248 383847 neu iechydadiogelwch@bangor.ac.uk
Mewn argyfwng ffoniwch 333
Pwy ydym ni?
Cyd-adran gefnogi ganolog yw Lles y Campws, o fewn Gwasanaethau Campws. Caiff ein gwaith ei arwain yn bennaf gan y Grŵp Tasg Iechyd a Diogelwch a Phwyllgor Iechyd a Diogelwch y Brifysgol, gan ddatblygiadau mewn gofynion deddfwriaethol, disgwyliadau cynyddol a chan weithgareddau newydd a datblygiadol yn y Brifysgol.
Pam rydym yn bodoli?ÌýÌýÌýÌý Ìý
Mae rheolaeth dda dros iechyd a diogelwch yn hanfodol mewn sefydliad mawr a chymhleth fel y Brifysgol. Fodd bynnag, rydym yn gwybod ei bod yn amhosibl i reolwyr a goruchwylwyr unigol fod yn ymwybodol ac yn hyddysg yn yr holl ddeddfwriaeth a dulliau gweithredu perthnasol oherwydd maint sylweddol iawn deddfwriaeth yn ymwneud ag iechyd a diogelwch. Ìý
Felly, mae staff Iechyd a Diogelwch canolog yn bodoli i fodloni’r gofyn cyfreithiol am ffynhonnell hyddysg o gyngor ar iechyd a diogelwch, i hyrwyddo safonau da ymhob maes yn ymwneud ag iechyd a diogelwch a chynorthwyo’r holl Golegau, Ysgolion ac Adrannau i gyflawni eu hymrwymiadau iechyd a diogelwch a’r disgwyliadau a roddir arnynt.
Beth ydym ni’n ei wneud?
Yn bennaf mae’r tim o staff yn rhoi gwybodaeth gyfredol i’r Brifysgol ar yr holl ddeddfwriaeth, gofynion ac ymarferion da priodol yn ymwneud ag iechyd a diogelwch, gan sicrhau y rhoddir cyngor addas ar draws y sefydliad er mwyn sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio â deddfwriaeth i sicrhau diogelwch ac iechyd ei staff, ei myfyrwyr a'i hymwelwyr. ÌýMae’r cyngor a roddwn yn ddiduedd ac yn annibynnol ar unrhyw bwysau cyllidebol neu wleidyddol; elfennau sy’n allweddol i sicrhau llwyddiant system rheoli iechyd a diogelwch y Brifysgol.
Mae’r Iechyd a Diogelwch yn hyrwyddo Strategaethau ac Amcanion sydd nid yn unig yn ystyried 'cydymffurfio', ond sydd hefyd yn hyrwyddo a datblygu rhagoriaeth yn holl feysydd Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith. ÌýMaent hefyd yn rhoi cyngor medrus ac awdurdodol ar iechyd a diogelwch, cefnogi rheolwyr a staff, a llunio canllawiau i helpu Colegau ac Adrannau i gydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol ac ymarfer da. ÌýRydym hefyd yn gwneud archwiliadau ac arolygon ysbeidiol o systemau iechyd a diogelwch mewn Colegau ac Adrannau, rhoi hyfforddiant a chymorth a, lle bo’r angen, ymchwilio i ddigwyddiadau a damweiniau ac achosion o afiechyd sy’n gysylltiedig â gwaith. Ìý
Yn olaf, rydym yn cydweithredu ag arolygiaethau EM, e.e. y Gweithgor Iechyd a Diogelwch ac Asiantaeth yr Amgylchedd, ac yn ymwneud â chyrff ac awdurdodau sy’n ymchwilio i faterion iechyd a diogelwch, digwyddiadau, damweiniau a chwynion. Ìý
Yw staff Iechyd a Lles y Campws yn gyfrifol am iechyd a diogelwch?
Nac ydynt, gan nad oes gennym reolaeth reolaethol dros y Brifysgol na’i Cholegau ac Adrannau. Rydym yno i helpu gyda materion iechyd a diogelwch, ond nid ydym yn gyfrifol yn y pen draw am reolaeth iechyd a diogelwch.
Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn glir bod gan unigolion a sefydliadau gydgyfrifoldeb a chyfrifoldeb personol dros iechyd a diogelwch ac mae Polisi Iechyd a Diogelwch y Brifysgol yn gwneud hyn yn glir trwy nodi cyfrifoldebau yn y Sefydliad. ÌýEr enghraifft, nid yw Swyddfa Ymchwil y Brifysgol yn gyfrifol am ansawdd ymchwil mewn Coleg neilltuol. Y Coleg ei hun sy’n gyfrifol, ond bydd y Swyddfa Ymchwil yn arwain, cyfarwyddo a chynorthwyo. Ìý
Iechyd yn y gwaith Ìý
Mae cefnogaeth iechyd gwaith yn y brifysgol rwan yn cael eu darperi gan uned Adnoddau Dynol. Mae materion fel asesu effaith o waith ar iechyd dal yn cael eu cefnogi gan y tîm iechyd a diogelwch, sydd hefyd yn arwain ar faterion o reolaeth -risg sy'n bodoli oherwydd gwaith. Mae mwy o fanylion am iechyd ar gael o'r safle we.
Mae gan Adnoddau Dynol hefyd Rhaglen Cymorth i Weithwyr yn wasanaeth cyfrinachol yn y gwaith a ddarperir gan y brifysgol i helpu aelodau staff ddelio â straen bywyd-gwaith, problemau teuluol, pryderon ariannol, problemau perthynas, a phryderon eraill. Mae ar gael i aelodau staff a'u teuluoedd ac mae'n anelu at gael effaith gadarnhaol ar eu lles.
Ìý