Gwybodaeth i Fyfyrwyr
Mae eich cyfnod yn y Brifysgol yn gyfnod pwysig yn eich bywyd, a phan fyddwch yn gadael bydd gennych lawer o atgofion melys a nifer o ffrindiau da.
Mae pawb yn gwybod y gall iechyd a diogelwch fod, wel, yn... ZZZZZZZZZzzzzzzzzz a dweud y lleiaf, ond gobeithio y bydd y Llawlyfr Iechyd a Diogelwch i Fyfyrwyr yn rhoi rhywfaint o gyngor defnyddiol i chi (yn ogystal â'r pethau diflas!) i’ch helpu i wneud y gorau o’ch cyfnod ym Mhrifysgol Bangor.
Mae eich iechyd, eich diogelwch a’ch lles yn bwysig i’r Brifysgol ac mae nifer o bethau wedi cael eu rhoi ar waith i wneud eich cyfnod yma yn gyfnod y byddwch yn ei gofio am yr adegau da a’r addysg a gawsoch.
Pryderon
Os oes gynnych unrhyw bryderon, ewch i siarad â'ch Tiwtor neu gysylltu â'r Gwasanaeth Iechyd a Diogelwch yn uniongyrchol ar iechydadiogelwch@bangor.ac.uk
Rhagor o Wybodaeth Ddefnyddiol am Iechyd a Diogelwch
- Cyngor Covid
- Cyngor OSA i Fyfyrwyr
- Eich Cyfrifoldebau
- Eich Dyletswydd Cyfreithiol
- Adrodd am Bryderon a Damweiniau
- Diogelwch Personol