Gwybodaeth i Staff a Myfyrwyr
Cyfrifoldebau
Mae gan bob aelod staff a myfyriwr rwymedigaeth gyfreithiol i gymryd gofal rhesymol am eu hiechyd a’u diogelwch eu hunain ac am ddiogelwch eraill y gall eu gweithrediadau neu eu diffyg gweithredu effeithio arnynt. Rhaid iddynt hefyd gydymffurfio â’r rheolau a’r rheoliadau a nodir ym Mholisi Iechyd a Diogelwch y Brifysgol a pholisïau a dulliau gweithredu isradd a chysylltiedig eraill.
Y mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar yr holl staff a’r myfyrwyr tra’u bod yn y gwaith neu’n astudio yn y Brifysgol, a thra’u bod i ffwrdd o’r Brifysgol ar fusnes y Brifysgol neu weithgarwch cysylltiedig, i wneud y canlynol:
- Ymddwyn yn gyfrifol a chymryd gofal rhesymol am eu hiechyd a’u diogelwch eu hunain ac unigolion eraill y gall eu gwaith neu eu gweithgarwch effeithio arnynt.
- Cydweithredu â’r holl staff a’r myfyrwyr i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau iechyd a diogelwch eu hunain.
- Rhoi gwybod i staff goruchwylio am unrhyw sefyllfa, ymarfer neu ddull gweithredu gwaith y maent yn ei amau sy’n beryglus o bosibl.
Rhoi gwybod am yr holl ddamweiniau a digwyddiadau i staff goruchwylio neu unigolyn/unigolion priodol eraill.
-
Defnyddio, ond nid camddefnyddio, dillad, offer neu ddeunyddiau gwarchodol a ddarperir ar gyfer iechyd a diogelwch.
-
Cydymffurfio â rheolau, polisïau a chyfarwyddiadau iechyd a diogelwch a roddir iddynt, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
-
Defnyddio peiriannau neu offer yn y modd y cawsant eu llunio ar ei gyfer, ac yn unol â’r rhagofalon diogelwch priodol.
Gall unrhyw un sy’n mynd yn groes i’r gofynion hyn fod yn agored i achosion disgyblu’r Brifysgol a/neu gamau cyfreithiol posibl gan yr Awdurdodau sy’n Gorfodi.