Deon Colegau a Cyfarwyddwyr Gwasanaethau
Pam Iechyd a Diogelwch?
Nid yw’r Brifysgol yn derbyn bod yn rhaid i rywun fynd yn sâl neu ddioddef poen neu anaf oherwydd ei busnes hi; yn wir, nid yw’r Brifysgol yn disgwyl i neb ddioddef yn sgil ei gweithgareddau.
Nid yn unig y mae dyletswyddau moesol a chyfreithiol yn gysylltiedig ag iechyd a diogelwch, ond ceir hefyd y budd economaidd-gymdeithasol sy’n gysylltiedig â chynnal trefn dda o ran iechyd a diogelwch.
Bydd rheolaeth effeithiol ar risgiau iechyd a diogelwch yn gymorth:
- I gael y gorau gan y bobl sy’n gweithio ar gyfer eich Coleg neu’ch Adran, o ran lles a chynhyrchiant.
- I atal pobl rhag mynd yn sâl, cael anaf, neu hyd yn oed gael eu lladd trwy weithgareddau gwaith.
- I wella enw da’r Brifysgol yng ngolwg myfyrwyr, gweithwyr posibl a budd-ddeiliaid eraill, a’r gymuned ehangach.
- Osgoi effeithiau andwyol ar drosiant staff, y ddelwedd gyhoeddus, a sicrhau ansawdd.
- Lleihau’r tebygolrwydd o darfu’n ddifrifol ar fusnes trwy ddigwyddiad mawr.
- Lleihau’r tebygolrwydd o erlyniad a chosbau yn dilyn hynny.
- Osgoi cyhoeddusrwydd drwg a cholli hyder.
Mae arweinyddiaeth gref yn hollbwysig wrth reoli’n effeithiol ar risg i iechyd a diogelwch. Dylai pawb wybod – a chredu – eich bod chi, fel Deon Colegau a Phenaethiaid Adrannau, wedi ymrwymo wrth iechyd a diogelwch ar ac i wella perfformiad yn barhaus. Efallai y bydd angen ichi egluro eich disgwyliadau, a’r modd y bydd eich sefydliad a’ch dulliau gweithredu’n cyflawni hyn. Dylai eich datganiad ar Bolisi a Threfniadau Iechyd a Diogelwch fod yn ddogfen fyw, i’w llunio gan ymgynghori â’ch staff, i’w dwyn i sylw eich holl staff a myfyrwyr, ac i’w hadolygu a’i diwygio fel y bo sefyllfaoedd yn newid, e.e. newidiadau mewn deddfwriaeth neu mewn arferion gwaith.