Cyfraith a Dyletswyddau Iechyd a Diogelwch
Cyflogwyr sy’n bennaf gyfrifol am sicrhau iechyd a diogelwch gweithwyr ac am leihau risgiau i eraill (yn cynnwys y cyhoedd) yr effeithir arnynt gan weithgareddau gwaith (Adrannau 2 a 3 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974).
Y Brifysgol
Ymhelaethir ymhellach ar y dyletswyddau cyffredinol hynny a roddir ar y Brifysgol, trwy’r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith, gan y Rheolaethau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith. Â Mae’r Rheoliadau hyn yn cynnwys yr angen i gyflogwyr, y Brifysgol a’i Cholegau ac Adrannau, weithredu fel a ganlyn:
-
Asesu’r risgiau’n ymwneud â gwaith a wynebir gan aelodau staff a phobl nad ydynt yn gyflogedig yno (myfyrwyr, staff, contractwyr).
-
Sefydlu trefniadau effeithiol ar gyfer cynllunio, trefnu, rheoli, monitro ac adolygu mesurau ataliol ac amddiffynnol.
-
Penodi pobl gymwys i gynorthwyo i gyflawni’r mesurau sydd eu hangen i gydymffurfio â chyfraith iechyd a diogelwch.
-
Rhoi gwybodaeth ddealladwy a pherthnasol i aelodau staff ar y risgiau y maent yn eu hwynebu a'r mesurau ataliol ac amddiffynnol sy'n rheoli'r risgiau hynny.
Lle mae ‘corff corfforaethol’ (y Brifysgol) yn cyflawni trosedd yn ymwneud ag iechyd a diogelwch, a bod y drosedd wedi’i chyflawni gyda chydsyniad, goddefiad neu drwy esgeulustod unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall cyffelyb o’r ‘corff corfforaethol’, gall yr unigolyn hwnnw (yn ogystal â’r corff corfforaethol) gael ei erlyn a’i gosbi (Adran 37, Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974).
Yr Is-Ganghellor
Yr Is-Ganghellor yw Rheolwr Uchaf y Brifysgol ac felly mae ganddo ymrwymiad cyfreithiol sylweddol i weithredu deddfwriaeth a rheolaethau iechyd a diogelwch priodol yn y Brifysgol.
Mae gan yr Is-Ganghellor, fel Prif Swyddog Gweithredol y Brifysgol, gyfrifoldeb cyffredinol (i Gyngor y Brifysgol) dros hyrwyddo, gweinyddu a gweithredu Polisi Iechyd a Diogelwch y Brifysgol a chaiff ei gynorthwyo gan y Pwyllgor Gweithredu a’r Grŵp Tasg Rheoli Argyfyngau Iechyd a Diogelwch.
Deon Coleg / Pennaeth Adran (Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Proffesiynol)
Ystyrir Deon Colegau a Phenaethiaid Adrannau yn Uwch Reolwyr y Brifysgol ac felly mae ganddynt ymrwymiadau cyfreithiol i weithredu deddfwriaeth yn eu Coleg / Adran eu hunain.
Mae’n rhaid i Deon Colegau / Penaethiaid Adrannau baratoi polisi iechyd a diogelwch Coleg / Adran sy'n ategol i Bolisi Iechyd a Diogelwch y Brifysgol. Â Mae’n rhaid iddynt sicrhau y rhoddir gwybod i holl staff am y polisi hwn a bod trefniadau ar gael i’w weithredu. Â
Holl Staff, Myfyrwyr ac eraill
Mae gan bob aelod staff ddyletswydd gyfreithiol (dan Adran 7 Deddf 1974) i gydweithredu â’i gyflogwr/chyflogwr ym mhob mater yn ymwneud ag iechyd a diogelwch ac i roi gwybod am bryderon ynghylch iechyd a diogelwch.  Yr un modd mae gan fyfyrwyr, contractwyr a'r cyhoedd ddyletswydd gyfreithiol (dan Adran 8 Deddf 1974) i beidio â rhoi eraill mewn perygl trwy eu gweithredoedd ac i beidio ag ymyrryd ag unrhyw beth a ddarperir er budd iechyd a diogelwch.
Cosbau ac ymchwiliadau
Pe bai rhywbeth yn digwydd bydd y canlyniadau i chi, eich cydweithwyr a’r Brifysgol yn amrywio, yn dibynnu ar natur a difrifoldeb y digwyddiad a ph’run a anafwyd rhywun neu yr achoswyd difrod. Â Mae ffactorau eraill a gymerir i ystyriaeth hefyd yn cynnwys: Â a allai fod wedi bod yn fwy difrifol; a roddwyd cyhoeddusrwydd i’r peth; pryder staff / myfyrwyr neu os oedd y digwyddiad yn un y gellid rhoi gwybod i’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) amdano.
Mae’n rhaid i’r Iechyd a Diogelwch roi gwybod i’r HSE am rai digwyddiadau ac anafiadau. Felly, mae’n rhaid rhoi gwybod cyn gynted â phosibl i’r Iechyd a Diogelwch am bob damwain a digwyddiad fel y gellir cyflawni’r gofynion cyfreithiol hyn yn ymwneud ag adrodd am ddigwyddiadau.
Cysylltiad yr HSE
Os yw’r HSE wedi cymryd diddordeb mewn digwyddiad, neu’n ymchwilio’n ffurfiol iddo, cysylltir â’r HSE fel rheol drwy’r Iechyd a Diogelwch a, lle bo’n briodol, drwy Gyfreithwyr y Brifysgol.  Bydd y Iechyd a Diogelwch yn egluro beth sy’n digwydd, beth all ddigwydd a byddant yn sicrhau bod y Brifysgol yn cydweithredu'n llawn â'r Arolygwyr.
Gall Arolygwyr yr HSE gyfweld unrhyw aelod staff, myfyriwr neu aelod o’r cyhoedd; gall hyn fod fel ‘tyst’ i ddigwyddiad (nid oes raid i chi fod wedi gweld y digwyddiad i fod yn dyst oherwydd gallech fod yn ‘dyst’ i’r ffordd y cafodd systemau eu gweithredu), pa systemau rheoli oedd wedi’u sefydlu a sut roedd / mae diogelwch yn cael ei reoli etc. Â Ar ddiwedd y cyfweliad hwn bydd y sawl a gyfwelwyd yn cytuno ar ddatganiad tyst a’i lofnodi.
Fodd bynnag, os yw’r Arolygwyr yn credu y gall rhywun fod â rhan yn y digwyddiad, gallant ei gyfweld ef/hi, ac unrhyw un arall, o dan ‘rybudd’ fel un a ddrwgdybir – fel a wneir dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol.
Mae cyfweliad ‘dan rybudd’ yn debyg i gyfweliad gan yr Heddlu. Darllenir eu hawliau i’r sawl sy’n cael eu cyfweld ac yn y rhan fwyaf o achosion caiff y cyfweliad ei recordio ar dâp, etc.  O dan yr amgylchiadau hyn bydd y Brifysgol yn darparu Cyfreithiwr os bydd angen.  Prin yw cyfweliadau o’r fath, fodd bynnag. Fe’u cynhelir fel rheol ar ôl digwyddiadau difrifol a lle credir bod gan rywun ran uniongyrchol yn achos y digwyddiad.
Mae rhwystro Arolygwyr HSE neu ymchwiliad mewn unrhyw ffordd yn drosedd.
Bydd yr HSE yn penderfynu, weithiau ar y cyd â Gwasanaeth Erlyn y Goron, p’run ai i erlyn neu a ydyw sancsiynau eraill yn briodol, e.e. Rhybudd Gwella, Rhybudd Gwahardd neu rybudd ffurfiol.  Efallai na fyddant yn gweithredu o gwbl os ydynt yn fodlon â’ch rheoliadau a’ch gweithredoedd.
Cysylltiad yr Heddlu
Lle mae’r digwyddiad yn ddigon difrifol (yn bennaf marwolaethau, trais neu draffig ar ffyrdd) bydd yr Heddlu’n aml yn arwain ymchwiliad, gan gydweithio’n agos â’r HSE os yw’r digwyddiad yn gysylltiedig â gwaith neu’r Brifysgol.  Bydd cyswllt ac ymwneud ffurfiol â’r Heddlu yn digwydd fel rheol drwy Swyddfa Llywodraethu a Chydymffurfio (rhan o Wasanaethau Corfforaethol). Fodd bynnag, yn aml bydd yr Heddlu’n cysylltu â thystion a rhai a amheuir a’u cyfweld heb roi gwybod i chi nac i’r Brifysgol. O dan amgylchiadau o’r fath, bydd y Brifysgol yn darparu Cyfreithiwr ar gyfer yr aelodau staff hynny sy’n cael eu cyfweld neu yr ymchwilir iddynt.
Ymholiadau gan y Wasg a’r Cyhoedd
Dylai unrhyw ymwneud ag aelodau o’r Wasg a’r Cyhoedd gael eu cynnal drwy’r Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata Corfforaethol ac/neu ei staff.
Damweiniau a digwyddiadau y gellir rhoi gwybod i’r HSE amdanynt
Bydd y Iechyd a Diogelwch yn ymchwilio ymhellach i’r rhan fwyaf o ddamweiniau a digwyddiadau y rhoddir gwybod i’r HSE amdanynt. Â Gall hyn fod ar ffurf archwilio safle a chyfweld tystion, neu trwy asesu gwaith papur perthnasol. Â Lle bo’n briodol, cynhyrchir adroddiad ar ddigwyddiadau o’r fath a darperir hwn i’r HSE os gofynnir amdano.
Holl ddamweiniau a digwyddiadau
Mae’n rhaid i’ch Coleg/Adran ymchwilio i bob damwain a digwyddiad er mwyn nodi gwelliannau y gellir eu gwneud i rwystro digwyddiadau tebyg rhag digwydd eto.  Rhaid i ni i gyd ddysgu oddi wrth ddigwyddiadau ac, i wneud hynny, rhaid i ni ddeall beth a aeth o’i le a pham – yn aml nid yr amlwg yw’r gwir achos a gall fod yn arwydd o fater ehangach sydd angen sylw.  Lle mae ymchwiliad HSE ar fin cael ei gynnal, caiff ymchwiliad y Coleg / Adran ei ohirio hyd nes ceir cyfarwyddyd i’r gwrthwyneb gan y Iechyd a Diogelwch.
Mae’n rhaid anfon copi o adroddiad ymchwiliad eich Coleg/Adran i ddamwain/digwyddiad at y Iechyd a Diogelwch ar gyfer pob damwain/digwyddiad.