Cyngor y Brifysgol
Fel y cyflogwr cyfreithiol, Cyngor y Brifysgol sydd â’r cyfrifoldeb yn y pen draw dros iechyd a diogelwch staff, myfyrwyr a phobl eraill yr effeithir arnynt gan weithgarwch y Brifysgol. Pwyllgor Iechyd a Diogelwch y Brifysgol sy’n cynghori Cyngor y Brifysgol am y materion hyn.
Mae’r Cyngor yn dirprwyo dyletswyddau a chyfrifoldebau rheoli i uwch reolwyr y Brifysgol sydd, yn eu tro, â chyfrifoldeb i sicrhau y cyflawnir y rhain. Mae’r Is-Ganghellor, fel y prif swyddog gweithredol, yn gyfrifol am reolaeth weithredol iechyd a diogelwch.
Wrth roi cyfrifoldeb dros reoli adnoddau ac ati i uwch staff, mae Cyngor y Brifysgol drwy hynny hefyd yn dirprwyo dyletswydd i ystyried goblygiadau unrhyw benderfyniadau iechyd a diogelwch a gymerir gan reolwyr. Yn benodol, mae Cyngor y Brifysgol yn gofyn i’r uwch staff hynny oruchwylio meysydd a gweithgareddau’r Brifysgol sy’n gweithredu dan eu rheolaeth neu eu cyfarwyddyd hwy i fodloni eu hunain y rhoddir ystyriaeth ddyledus i ofynion Polisi Iechyd a Diogelwch y Brifysgol.
Cyfeirir at berfformiad iechyd a diogelwch yn Adroddiad Blynyddol y Brifysgol, a bydd Cyngor y Brifysgol yn derbyn adroddiad blynyddol manylach ar reolaeth a pherfformiad iechyd a diogelwch.
Cynghorir y Cyngor ar faterion iechyd a diogelwch gan Bwyllgor Iechyd a Diogelwch y Brifysgol, a fydd yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn.
Cysylltiadau defnyddiol: