Â鶹´«Ã½¸ßÇå°æ

Fy ngwlad:
Grŵp o fyfyrwyr yn gweithio mewn labordy

Dod o hyd i'r cwrs i chi drwy Clirio Lleoedd Clirio

Nid yw'n rhy gynnar i edrych drwy einÌýcyrsiau israddedig am wybodaeth fanwl ar gyrsiau unigol fel eich bod yn barod os byddwch yn ffeindio eich hun yn y system Glirio ar ddiwrnod canlyniadau. Noder os gwelwch yn dda, bydd y cyrsiau sydd ar gael trwy Clirio wedi cael eu marcio fel cyrsiau Clirio ar ein gwefan o fis Gorffennaf.

Pam dewis Prifysgol Bangor?

Yn ogystal â’r addysgu rhagorol a’r adnoddau ardderchog, mae yna lawer o bethau eraill sy’n cyfrannu at wneud y profiad o astudio yma yn un unigryw.ÌýMae awyrgylch gyfeillgar i'r ddinas a chewch gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn ogystal â hynny, mae amgylchedd naturiol ein hardal gyfagos yn arbennig!

Myfyrwraig Holly Shone mewn ystafell wely yn llety'r Santes Fair

Byw mewn Llety modern sy'n gyfleus a chyfforddus

Byddwch yn teimlo'n gartrefol yn ein neuaddau preswyl. Mae ein llety yn fodern ac yn gyfforddus ac o fewn pellter cerdded i'r rhan fwyaf o adeiladau'r Brifysgol. Cewch ddewis byw yn o'r ddau bentref myfyrwyr - Ffriddoedd neu'r Santes Fair.Ìý

Myfyriwr ar Fwrdd Padlo ar Llyn Padarn yn Llanberis

Lleoliad ysbrydoledig i fyw a dysgu

Mae'r Brifysgol yn cynnig amgylchedd hamddenol i fyfyrwyr gymdeithasu, dysgu a gwneud ffrindiau oes. Mae ein lleoliad, y golygfeydd a'r ardal gyfagos hefyd ymhlith y rhesymau pam mae llawer o'n myfyrwyr yn dewis dod i Fangor.

Ìý

Myfyrwyr yn eistedd yn y caffi pontio yn yfed coffi ac yn chwerthin gyda'i gilydd

Gofalu a chefnogi ein myfyrwyr

Ym Mangor, rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ofalu am ein myfyrwyr a’u cefnogi. O'r munud y byddwch yn cyrraedd, byddwch yn cael cymaint o help a chefnogaeth ag sydd eu hangen arnoch chi.

Student playing basketball

Dewis eang o Glybiau a Chymdeithasau

Mae Clybiau a Chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr, sydd wedi cael eu gwobrwyo ymysg y gorau yn y DU tros y blynyddoedd, yn gyfle gwych i ddod i adnabod eraill.ÌýFelly, p'un a yw'n rywbeth rydych yn ymddiddori ynddo erioed neu'n chwaraeon neu weithgareddau rydych wedi bod eisiau rhoi cynnig arnynt erioed, mae yna ddigon i'ch cadw'n brysur yn eich amser hamdden.

Cipolwg ar ein hadeiladau a'n hadnoddau arbennig