Cyngor ar gyfer y diwrnod canlyniadau Lefel-A a Chlirio
Os yw eich lle yn y brifysgol yn dibynnu ar fodloni gofynion eich cynnig amodol, gellwch wirio statws eich cais UCAS i weld beth yn union yw鈥檙 sefyllfa o 8.00am ymlaen ar Ddiwrnod Canlyniadau Lefel A (Dydd Iau, 15 Awst). Os ydych wedi cael eich derbyn am le, bydd statws eich cais yn dangos eich bod wedi cael eich derbyn yn gadarn - bydd yn nodi os yw'r lle ym mhrifysgol eich dewis cadarn neu eich dewis yswiriant yn ogystal 芒 dangos ar ba gwrs rydych wedi cael eich derbyn.
Peidiwch 芒 chynhyrfu! Os na chawsoch y graddau roeddech yn gobeithio eu cael ac na wnaethoch lwyddo i gael lle yn eich Dewis Cadarn na鈥檆h Dewis Yswiriant, peidiwch 芒 phoeni - byddwch yn cael eich gosod yn awtomatig yn y system Glirio. Bydd statws eich cais yn dangos eich bod yn y system Glirio ac yn rhoi rhif Clirio i chi. Yna byddwch yn gallu dechrau chwilio am le trwy鈥檙 system Glirio. Bydd gwefan UCAS yn dangos pa gyrsiau sydd 芒 lleoedd Clirio ar gael a dylech gysylltu 芒'r brifysgol/prifysgolion dan sylw i drafod eich opsiynau. Peidiwch 芒 dewis prifysgol fel eich dewis Clirio cyn siarad 芒'r brifysgol yn gyntaf.
Unwaith y byddwch yn y system Glirio, dylech gysylltu 芒 phrifysgolion i drafod eich opsiynau. Bydd y chwiliad cyrsiau ar wefan UCAS yn dangos i chi pa gyrsiau sydd yn cynnig lleoedd Clirio, a bydd y rhan fwyaf o brifysgolion yn cynnig gwybodaeth am gyrsiau sydd ar gael trwy鈥檙 system Glirio ar eu gwefannau. Efallai y byddwch yn dymuno ystyried cyrsiau sy'n wahanol i'r rhai y gwnaethoch gais amdanynt yn wreiddiol, ac efallai y bydd angen i chi ystyried prifysgolion gwahanol i'r rhai yr oeddech wedi'u gosod yn wreiddiol ar eich rhestr fer.
Pan fyddwch yn cysylltu 芒 phrifysgol unigol, gwnewch yn si诺r bod gennych y wybodaeth berthnasol wrth law, gan gynnwys eich rhif adnabod UCAS personol, y rhif Clirio, cyfeiriad e-bost a rhif(au) ff么n cyswllt. Gofynnir i chi hefyd am eich canlyniadau Lefel A, neu gymwysterau cyfwerth fel BTEC, yn ogystal ag unrhyw ganlyniadau TGAU perthnasol.听
Os bydd prifysgol yn cynnig lle i chi drwy'r system Glirio, gallwch dderbyn y cynnig hwnnw drwy ddewis y brifysgol honno fel eich Dewis Clirio. Gellwch gysylltu 芒 chymaint o brifysgolion ag y dymunwch i holi am leoedd ar gyrsiau, ond dim ond un cynnig Clirio y gellwch ei dderbyn.听
Felly, os bydd mwy nag un prifysgol yn rhoi cynnig Clirio i chi dros y ff么n/trwy e-bost, bydd angen i chi ystyried pa un yw'r opsiwn gorau i chi. Peidiwch 芒 rhuthro eich penderfyniad - edrychwch ar wefan y brifysgol, neu ffoniwch yn 么l am sgwrs ddilynol os ydych wedi anghofio gofyn am gyfle i ymweld, y trefniadau llety ar gyfer ymgeiswyr Clirio, etc.听
听
Unwaith y byddwch wedi penderfynu pa gynnig Clirio yr hoffech ei dderbyn, ewch i'r adran 'Eich dewisiadau' yn eich cais UCAS a chlicio 'Ychwanegu dewis Clirio'. Dim ond ar 么l ichi siarad 芒鈥檙 brifysgol ac iddynt eich sicrhau eu bod yn gallu cynnig lle Clirio i chi ar y cwrs dan sylw y dylech ychwanegu enw鈥檙 brifysgol fel eich dewis Clirio.听
Pan fyddwch wedi penderfynu pa gwrs a phrifysgol yr hoffech eu dewis drwy'r system Glirio, yna cliciwch 'Ychwanegu dewis Clirio'. Yna bydd angen ichi ychwanegu manylion y cwrs (gwnewch yn si诺r bod gennych y teitl a鈥檙 cod cwrs cywir) yn ogystal ag enw鈥檙 Brifysgol a鈥檙 cod UCAS.听
Cofiwch, dim ond un dewis Clirio y gellwch ei ychwanegu ar y tro ac mae ychwanegu cwrs a phrifysgol benodol yn golygu eich bod yn bendant yn derbyn y cynnig Clirio hwnnw. Felly, os bydd y brifysgol wedi hynny yn cadarnhau'r lle, bydd yn ymddangos wedyn fel derbyniad ar eich tudalen 'dewisiadau' yn eich cais UCAS.
Ond, os na fydd y brifysgol yn cadarnhau'r lle Clirio hwnnw, byddwch yn gallu ychwanegu dewis Clirio arall.听
Os dewiswch Brifysgol Bangor trwy'r system Glirio, dyma beth fydd yn digwydd nesaf:
- Ar 么l ichi ychwanegu Bangor fel eich dewis Clirio, bydd ein t卯m derbyniadau yn cynnal gwiriadau. Felly peidiwch 芒 phoeni os na fydd diweddariad yn ymddangos ar system UCAS ar unwaith - mae'n adeg brysur o'r flwyddyn felly mae'r broses yn cymryd ychydig o amser. Bydd eich lle Clirio gyda ni wedi ei neilltuo ar eich cyfer, a bydd ein t卯m Derbyniadau yn cadarnhau eich dewis Clirio cyn gynted ag y bo modd.听
- Unwaith y bydd eich lle ym Mangor wedi'i gadarnhau, bydd yn ymddangos fel derbyniad ar dudalen 'Eich dewisiadau' yn eich cais UCAS, a byddwn hefyd yn anfon e-bost atoch i roi gwybod i chi.
- Tua 24-48 awr yn dilyn hynny, byddwn yn anfon e-bost atoch gyda chyswllt i'n system archebu llety er mwyn ichi allu dewis ystafell mewn neuadd breswyl. Rydym yn gwarantu ystafell yn un o鈥檙 neuaddau preswyl i bawb sy'n derbyn lle drwy'r system Glirio ac sy'n gwneud cais am lety cyn y dyddiad cau.
Fideo - Cyngor Clirio
Os nad ydych yn siwr beth fydd yn digwydd ar ddiwrnod Lefel A a rydych yn poeni am Clirio, mae ein harbenigwr yma i helpu efo cyngor. Os rydych chi yn y drefn Clirio, peidiwch 芒 phoeni, mae gennych lawer o opsiynau.听
Cysylltwch 芒'r Llinell Gymorth Clirio
Gallwch gysylltu 芒'r Llinell Gymorth Clirio ar 0800 085 1818.