Deon Colegau a Cyfarwyddwyr Gwasanaethau
Ydw i’n gyfrifol am adeiladau hefyd?
Yn gyffredinol, nid oes gennych gyfrifoldeb dros ddim byd sy’n ymwneud ag adeiladau a ddefnyddir gan eich Coleg / Gwasanaeth, nac am wasanaethau i’r adeiladau (megis cyflenwadau trydan i’r soced a dŵr i’r tap); cyfrifoldeb yr Gwasanaethau Campws yw’r rhain. Mae’r Gwasanaethau Campws yn gyfrifol am reoli, cynllunio a chynnal ystâd y Brifysgol yn gyffredinol.
Fodd bynnag, eich cyfrifoldeb chi yw’r modd y mae eich Coleg / Gwasanaeth yn gweithredu o fewn yr adeilad, a’r modd y mae’n ei ddefnyddio, felly hefyd y ddyletswydd gyffredinol i edrych ar ôl yr adeilad fel na fydd neb mewn perygl.
Disgwylir i Golegau ac Adrannau weithredu’n ddiogel o fewn adeilad a gynhelir gan yr Gwasanaethau Campws. Rhaid i Golegau / Gwasanaeth sicrhau bod yr hyn a wnânt o fewn adeilad yn addas ar gyfer yr adeilad, ac yr asesir yr holl risgiau i sicrhau iechyd a diogelwch pawb.
Dylai defnyddwyr adeiladau weithio gyda’r Gwasanaethau Campws i sicrhau bod pawb yn ddiogel, ac y defnyddir gwasanaethau’r adeiladau hynny’n ddiogel a heb risg. Mae gan brif ddefnyddwyr adeiladau rai dyletswyddau o ran ‘profi’ larymau tân a goleuadau argyfwng; ceir mwy o wybodaeth am y rhain o’r Gwasanaethau Campws.