Deon Colegau a Cyfarwyddwyr Gwasanaethau
Yr hyn y dylech ei wybod a’i wneud
Yn gyntaf
Fel Deon Colegau a Cyfarwyddwyr Gwasanaethau, dylech gymryd a derbyn cyfrifoldeb dros iechyd a diogelwch. Mae cyfrifoldeb yn golygu perchnogaeth; pan fyddwn yn berchen ar rywbeth, rydym yn tueddu i edrych ar ei ôl.
Yna
Rhaid ichi gyflwyno systemau a threfniadau i sicrhau nad oes neb mewn perygl o gael anaf, o farw nac yn cael afiechyd oherwydd gweithgareddau eich Coleg neu eich Adran. Cofiwch, os yw eich Coleg neu eich Adran wedi creu risg, yna chi a’ch Coleg / Adran sy’n gyfrifol am reoli’r risg hwnnw.
Rhaid ichi wybod am beryglon eich Coleg / Adran, gwybod sut rydych yn rheoli’r risgiau o’r peryglon hyn, a bod yn fodlon y ceir rhaglen o wella parhaus a fydd yn dileu neu’n lleihau i’r eithaf y tebygolrwydd y bydd y gweithgareddau hyn yn arwain at niwed neu afiechyd.
Mae hyn yn golygu:
-
Llunio a gweithredu polisi iechyd a diogelwch Colegol / Adrannol.
-
Cyflwyno trefniadau i gynorthwyo i weithredu eich polisi, yn cynnwys penodi Cydlynydd / Cydlynwyr Diogelwch.
-
Cynnal trosolwg ac asesiad risg Adrannol / Colegol er mwyn canfod eich peryglon allweddol ac i lunio cynllun gweithredu hierarchaidd ar gyfer rheoli risg. Dylai hyn hefyd fod yn rhan o broses o wella parhaus.
- Sicrhau bod newidiadau sylfaenol eraill ar waith.
Er enghraifft, a ydych chi (eich Coleg / Adran):
-
 system ar gyfer profi ac archwilio eich holl gyfarpar / offer trydanol bob hyn a hyn?
- Yn cyfarwyddo’r holl fyfyrwyr a staff newydd ac academyddion gwadd ar y risgiau iechyd a diogelwch a geir, a’r modd yr ydych yn eu rheoli?
- Yn sicrhau bod yr holl staff newydd yn mynd i sesiwn ymgynefino ffurfiol y Brifysgol a drefnir gan AD (HR) ac eich bod hefyd yn rhoi hyfforddiant ymgynefino lleol iddynt ar materion iechyd a diogelwch?
- Yn cynnal asesiad risg ar yr holl beryglon o bwys o fewn eich Coleg / Adran? A oes gennych staff sy’n fedrus a hefyd yn ddigon hyderus i lunio asesiadau risg addas?
- Yn hyfforddi eich staff allweddol yn yr agweddau mwy manwl ar iechyd a diogelwch, lle bo’r risg yn cyfiawnhau hynny?
- Â system i sicrhau bod yr holl gyrsiau, projectau a gweithgareddau ymchwil newydd yn cael eu cloriannu o ran risg iechyd a diogelwch cyn eu cymeradwyo?
- Â phwyllgor neu grŵp ymgynghorol sy’n trafod materion iechyd a diogelwch yn ffurfiol? A fyddwch yn nodi unrhyw argymhellion a’u gweithredu lle bo hynny’n ymarferol?
- Yn sicrhau bod pawb sy’n defnyddio cyfrifiadur wedi bod ar gwrs hyfforddi byr ar Offer Sgrîn Arddangos ac wedi cael asesiad risg yn eu gweithfannau?
- Yn sicrhau y gweithredir ar ganfyddiadau Asesiadau Offer Sgrîn Arddangos?
- Â system ar gyfer adrodd ar holl absenoldebau’r staff oherwydd salwch, ac ar yr holl ddamweiniau a digwyddiadau o fewn eich Coleg / Adran?
- Yn ymchwilio yn y modd priodol i’r holl ddamweiniau a digwyddiadau?
- Yn cynnal ymarferion ymadael yn achos tân o leiaf ddwywaith y flwyddyn, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur eich Coleg / Adran?
Arolygu
Rhaid ichi sicrhau bod systemau iechyd a diogelwch yn cael eu monitro a’u harchwilio a bod eich holl staff a myfyrwyr wedi cael hyfforddiant addas neu wybodaeth briodol am sut i osgoi peryglon a all fod yn bresennol o fewn eich Coleg / Adran.
Cael help
Helpu eich Coleg / Adran, nid ei (l)lesteirio, yw pwrpas y Iechyd a Diogelwch. Ni all y staff canolog Iechyd a Diogelwch gyflawni swyddogaeth lawn iechyd a diogelwch ar gyfer eich Coleg / Adran, ond gall eich helpu chi a’ch cydweithwyr i greu systemau iechyd a diogelwch da a monitro eich perfformiad o ran diogelwch.