Deon Colegau a Cyfarwyddwyr Gwasanaethau
Cydlynwyr Iechyd a Diogelwch
Ni ellir disgwyl i'r Deon / Cyfarwyddwr gyflawni pob swyddogaeth iechyd a diogelwch yn bersonol ac felly fydd dirprwyo swyddogaethau iechyd a diogelwch i Gydlynwyr Iechyd a Diogelwch ac aelodau eraill o staff y Coleg / Adran y norm. Fodd bynnag, ni all y Deon / Cyfarwyddwr ddirprwyo atebolrwydd rheolaethol am iechyd a diogelwch yn y Coleg / Adran.
Aelodau staff sy’n ymwneud â materion iechyd a diogelwch o ddydd i ddydd yn eu Coleg /Gwasanaeth yw Cydlynwyr Iechyd a Diogelwch ac maent yn cael eu penodi gyda chylch gorchwyl a dyletswyddau penodol gan Deon Colegau a Phenaethiaid Adrannau. Â
Prif orchwyl y Cydlynwyr Diogelwch yw cynghori Deon Colegau a Phenaethiaid Adrannau, ac eraill, ar faterion iechyd a diogelwch a chynorthwyo i weithredu’r system rheolaeth y cytunwyd arni.  Dylai swydd Cydlynydd Iechyd a Diogelwch gael cefnogaeth o fewn y Coleg / Adran a dylai ef/hi/hwy gael hyfforddiant ac adnoddau digonol (o ran amser, arian, cymorth a chefnogaeth) i gyflawni eu swyddogaeth.
Mae gwybodaeth i Gydlynwyr, yn cynnwys templed Polisi Adrannol, ar gael ar safle we Cydlynwyr Iechyd a Diogelwch.