Gwybodaeth i Fyfyrwyr
Rhoi Gwybod am Ddamwain neu Ddigwyddiad
Peidiwch fyth â bod ofn adrodd am ddamweiniau, digwyddiadau neu bryderon, oherwydd os na fyddwch yn dweud wrth y Brifysgol, mae’n bosib na fydd yn gwybod am y broblem tan i rywun gael anaf difrifol. Os oes gennych bryderon am eich neuadd breswyl, er enghraifft, dywedwch wrth aelod o'r JCR ac wrth y Swyddfa Neuaddau, ac os ydych mewn llety preifat, ewch i siarad gyda neu Swyddfa Tai'r Brifysgol - mae'n debyg na fydd eich problem yn unigryw a bydd y staff yn gallu eich helpu, ac yn barod i wneud hefyd.
Os byddwch yn cael damwain, adroddwch am y ddamwain i’ch ysgol a gwnewch yn siŵr bod ffurflen adrodd am ddamwain yn cael ei llenwi. Os bydd rhywbeth yn digwydd nad yw'n gysylltiedig â’ch cwrs, yna adroddwch am y digwyddiad i aelod o’r tîm Diogelwch, aelod staff Neuaddau, Undeb y Myfyrwyr neu’n uniongyrchol i’r Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch.