Dyletswyddau Diwygiedig
Astudiaeth Achos 1Mae pryder difrifol yn deimlad ofnadwy iawn sy'n atal pob mwynhad o fywyd, ac sy’n rhoi baich trwm ar y rhai rydw i’n gweithio â nhw a’m hanwyliaid adref.
Mae asesiadau effaith straen wedi helpu i bennu fy ngwaith i lefel y gallaf ymdopi â hi, gan roi cydbwysedd cartref/bywyd i mi.
Mae'r ymarferwr iechyd galwedigaethol yn monitro fy lefelau pryder ac yn trefnu i mi fynychu rhaglen 'Ymwybyddiaeth Ofalgar' Prifysgol Bangor. Rydw i’n fwy cadarnhaol yn awr am fy nerth mewnol ac ni fyddaf yn rhoi fawr o bwys ar farn negyddol eraill bellach.
Mae'r gefnogaeth yr ydw i wedi’i chael yn y gwaith yn bendant wedi gwella fy iechyd meddwl, ac mae’n cael effaith gadarnhaol ar ansawdd fy mywyd.