Deon Colegau a Cyfarwyddwyr Gwasanaethau
Mae'r HSE yn credu mewn gorfodi cyfraith iechyd a diogelwch yn gadarn ond teg. Arweinir yr HSE gan egwyddorion cymesuredd wrth weithredu’r gyfraith a sicrhau cydymffurfiaeth; cysondeb o ran dull gweithredu; targedu camau gorfodi; eglurder o ran sut mae'r rheolydd yn gweithredu a'r hyn y gall y rhai a reoleiddir ei ddisgwyl; ac atebolrwydd am weithredoedd y rheolydd.
Diben a dull gorfodi
- Diben yr awdurdodau gorfodi yn y pen draw yw sicrhau bod rhai sydd â dyletswydd yn rheoli risgiau’n effeithiol, a thrwy hynny atal niwed. Mae ystyr eang i’r term 'gorfodi' ac mae'n berthnasol i unrhyw ymwneud rhwng awdurdodau gorfodi a'r rhai y mae'r gyfraith yn rhoi dyletswydd arnynt (cyflogwyr, yr hunangyflogedig, gweithwyr ac eraill).
- Diben gorfodi yw:
- sicrhau bod rhai sydd â dyletswydd yn cymryd camau i ddelio ar unwaith â risgiau difrifol;
- hyrwyddo a sicrhau y cydymffurfir yn gyson â'r gyfraith;
- sicrhau y gellir dal yn atebol rai â dyletswydd sy'n torri gofynion iechyd a diogelwch, a chyfarwyddwyr neu reolwyr sy'n methu o ran eu cyfrifoldebau, ac y gall hyn gynnwys dod â throseddwyr honedig gerbron y llysoedd yng Nghymru a Lloegr.
Mae gorfodi yn wahanol i geisiadau sifil am iawndal ac nid yw’n cael ei gyflawni yn yr holl amgylchiadau lle gall ceisiadau sifil gael eu gweithredu, na chynorthwyo ceisiadau o'r fath.
- Mae gan awdurdodau gorfodi amrywiaeth o gyfryngau ar gael iddynt i sicrhau cydymffurfiaeth â'r gyfraith ac i ymateb mewn modd cymesur i droseddau. Gall arolygwyr gynnig gwybodaeth a chyngor i rai sydd â dyletswydd, a hynny wyneb yn wyneb ac yn ysgrifenedig. Gall hyn gynnwys rhybuddio rhai â dyletswydd eu bod, ym marn yr arolygydd, yn methu â chydymffurfio â'r gyfraith. Lle bo'n briodol, gall arolygwyr hefyd roi rhybuddion gwella a gwahardd, tynnu cymeradwyaeth yn ôl, amrywio amodau trwydded neu eithriadau, rhoi rhybuddion ffurfiol (Cymru a Lloegr yn unig), a gall erlyn (neu anfon adroddiad i'r Procuradur Ffisgal gyda'r bwriad o erlyn yn yr Alban).
- Rhoi gwybodaeth a chyngor, cyhoeddi rhybuddion gwella neu wahardd, a diddymu neu amrywio trwyddedau neu awdurdodiadau eraill, yw'r prif ddulliau a ddefnyddir gan arolygwyr i gyflawni nod eang ymdrin â risgiau difrifol, sicrhau cydymffurfiaeth â chyfraith iechyd a diogelwch ac atal niwed. Mae rhybudd gwahardd yn atal gwaith er mwyn rhwystro anaf personol difrifol. Dylai gwybodaeth am rybuddion gwella a gwahardd fod ar gael i'r cyhoedd.
- Mae pob rhybudd gwella’n cynnwys datganiad bod trosedd wedi cael ei chyflawni ym marn arolygydd. Gall rhybuddion gwella a gwahardd, a chyngor ysgrifenedig, gael eu defnyddio mewn achos llys.
- Mae rhybuddion ffurfiol ac erlyn yn ffyrdd pwysig o ddod â rhai sydd â dyletswydd i gyfrif am achosion honedig o dorri'r gyfraith. Lle mae'n briodol gwneud hynny, yn unol â'r polisi hwn, dylai awdurdodau gorfodi ddefnyddio un o'r mesurau hyn, yn ogystal â rhybudd gwahardd neu hysbysiad gwella.