Eich iechyd chi ydyw!
- Yfed yn synhwyrol
- Bwyta'n Iach
- Edrych ar ôl eich corff
- Edrych ar ôl eich meddwl
- Iechyd Merched - Sgrinio Bronnau a Phrofion Ceg y Groth
- Iechyd Merched - Y Menopos
- Iechyd Merched - Cancr Ofaraidd
- Iechyd Dynion - Problemau Prostad
- Iechyd Dynion - Hunanarchwilio'r Ceilliau
- Iechyd Dynion - Canser y Fron
- Gwaed yn Wrin
Bwyta'n Iach
Bwyta'n Iach
Bwytewch ddiet cytbwys gyda llawer o bysgod olewog, cyw iâr, ffrwythau ffres, llysiau a grawn cyflawn, iach. Mae rhai bwydydd yn gwella imiwnedd yn naturiol, gan gynnwys, ffrwyth ciwi, bresych, ac afocado ac mae bwydydd sy’n llawn fitamin B6 yn helpu i frwydro yn erbyn haint – bwydydd fel banana, moron, ffacbys, tiwna, eog, blawd grawn cyflawn a hadau blodyn haul. Mae diet iach yn cynnwys
- Digonedd o fwydydd startshlyd fel bara, reis, pasta, grawnfwydydd brecwast, tatws, iamau a thatws melys - chwiliwch am fersiynau o fwydydd sy’n uwch mewn ffibr os oes modd (e.e. bara neu basta gwenith cyflawn)
- O leiaf pum cyfran o amrywiaeth o ffrwythau a llysiau bob dydd
- Dim gormod o gynnyrch llaeth (neu ddewisiadau amgen) - chwiliwch am fersiynau braster isel lle bo'n bosibl
- Dim gormod o gig, pysgod neu ddewisiadau amgen megis wyau, ffa, pys a ffacbys - chwiliwch am fersiynau braster isel lle bo modd
- Ambell i ddanteithfwyd (dim gormod o fwydydd sy'n uwch mewn braster, halen a / neu siwgr ychwanegol)
- Ychydig o halen - darllenwch y label bob amser
Hylifau
Torrwch i lawr ar goffi, alcohol a diodydd swigod. Dylem fod yn yfed rhwng 2 a 3 litr o ddŵr y dydd ac mae iechyd da yn dibynnu ar swm ac ansawdd yr hylif yn ein corff, gall te llysieuol hefyd gefnogi iechyd, ee:
- Afal a sinsir (yn helpu’r iau i weithio)
- Hadau Seleri (yn gostwng pwysedd gwaed)
- Camri (yn eich helpu i gysgu)
- Lemwn a sinsir (yn helpu’r iau i weithio)
- Ffenigl / Sage (glanhau, yn cynnwys phyto-oestrogenau – yn lleihau chwiwiau poeth)
- Echinacea (yn cefnogi'r system imiwn)
- Te gwyrdd (tn cefnogi'r system imiwn)
Am ragor o wybodaeth am fanteision iechyd te, ewch i’r wefan hon:
Asesu Eich Arferion Bwyta
NHS Choices efo rhaglen colli pwysau i helpu chi datblygu arferion bwyta'n iach a bod yn fwy actif. Cael gwybod sut y gall newidiadau syml i'ch ffordd o fyw helpu i gyflawni pwysau iach efo syniadau ar ryseitiau iach ar gyfer prydau bwyd isel mewn braster, braster dirlawn, siwgr a halen, ond yn uchel mewn blas a beth allwch chi ei wneud i roi hwb i'ch helpu i golli pwysau eich metaboledd.
Am ragor o wybodaeth ymwelwch â'r safle we Byw'n Well:
Cymorth i ddioddefwyr anhwylderau bwyta
BEAT -
Gwasanaeth Anhwylder Bwyta Oedolion yn y Gymuned - 01248 682610