Eich iechyd chi ydyw!
- Yfed yn synhwyrol
- Bwyta'n Iach
- Edrych ar ôl eich corff
- Edrych ar ôl eich meddwl
- Iechyd Merched - Sgrinio Bronnau a Phrofion Ceg y Groth
- Iechyd Merched - Y Menopos
- Iechyd Merched - Cancr Ofaraidd
- Iechyd Dynion - Problemau Prostad
- Iechyd Dynion - Hunanarchwilio'r Ceilliau
- Iechyd Dynion - Canser y Fron
- Gwaed yn Wrin
Iechyd Dynion - Hunanarchwilio'r Ceilliau
Y ffordd orau i wirio am ganser y ceilliau yw archwilio eich hun unwaith y mis. Amser da i wneud hyn yw ar ôl bath cynnes neu gawod, pan na fydd y sgrotwm ar dynn. Daliwch eich sgrotwm ar gledrau eich dwylo, fel y gallwch ddefnyddio bysedd a bawd dwy law i deimlo eich ceilliau. Mae'n gyffredin cael un caill sydd ychydig yn fwy na’r llall, neu sy'n hongian yn is na'r llall, ond mae arwyddion cynnar o ganser y ceilliau yn cynnwys:
- Lwmp caled ar flaen neu ochr un o’r ceilliau
- Caill wedi chwyddo neu fynd yn fwy
- Caill yn teimlo’n galed
- Poen neu anghysur mewn caill neu yn y sgrotwm (y sach sy'n dal y ceilliau)
- Y sgrotwm yn teimlo’n drwm
Am ragor o wybodaeth ewch i'r wefan ganlynol: