Eich iechyd chi ydyw!
- Yfed yn synhwyrol
- Bwyta'n Iach
- Edrych ar 么l eich corff
- Edrych ar 么l eich meddwl
- Iechyd Merched - Sgrinio Bronnau a Phrofion Ceg y Groth
- Iechyd Merched - Y Menopos
- Iechyd Merched - Cancr Ofaraidd
- Iechyd Dynion - Problemau Prostad
- Iechyd Dynion - Hunanarchwilio'r Ceilliau
- Iechyd Dynion - Canser y Fron
- Gwaed yn Wrin
Yfed yn synhwyrol
Eisio cefnogaeth?
Cysylltwch 芒 Rhaglen Cymorth Gweithwyr (EAP) y Brifysgol. Mae hi'n wasanaeth cyfrinachol yn y gweithle a ddarperir gan y Brifysgol i helpu aelodau staff i ddelio ag ystod eang o bryderon. Mae ar gael i aelodau staff a'u teuluoedd a'i nod yw cael effaith gadarnhaol ar eu lles.
Gasanaethau eraill a allai helpu yn gynnwys Gwasanaethau Alcohol () ganllaw hunangymorth i helpu pobl i leihau yfed er mwyn byw'n iachach. Ewch i'w gwefan: www.cais.co.uk neu'r Gwasanaeth Cymorth Cyflogaeth - mae hwn yn wasanaeth cyfrinachol am ddim sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth i weithwyr sydd ar gael yng ngogledd Cymru
Mae gan CAIS (Asiantaeth Cyffuriau ac Alcohol) arweinlyfr ar hunangymorth i helpu pobl yfed llai er mwyn byw鈥檔 iachach. Ewch i鈥檞 gwefan:
Gwasanaeth Cefnogi Cyflogaeth - mae hwn yn wasanaeth cyfrinachol ac am ddim yn cynnig cyngor a chefnogaeth i weithwyr Gogledd Cymru
~~~
Mae Sefydliad (AGRO) wedi'i sefydlu ar gyfer pobl sy'n gwella sy'n cael eu rhedeg gan bobl sy'n gwella. Maent yn cynnal cyfarfodydd a digwyddiadau gyda'r nos ac ar benwythnosau ac mae'n sefydliad a arweinir gan aelodau sy'n seiliedig ar werthoedd cynwysoldeb a chydfuddiant; mae'n sefydliad sy'n cael ei redeg gan bobl sy'n gwella ar gyfer pobl sy'n gwella ar Ynys M么n ac yng Ngwynedd. Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt .
~~~
Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Alcohol a Chyffuriau am ddim
~~~
I’r rhan fwyaf o bobl sy’n yfed, mae alcohol yn rhoi pleser a mwynhad. Mae o’n gwneud i ni ymlacio mwy, ond hefyd mae’n gwneud i ni ymddwyn yn fwy diymatal. Mewn rhai sefyllfaoedd mae hyn yn arwain at ymladd ac dadlau, cyswllt rhywiol annoeth, torri’r gyfraith a damweiniau.
Gall ‘ymddwyn yn wirion’ gael ei anghofio’n fuan, ond gall canlyniadau mwy difrifol ymddygiad a gweithredoedd amhriodol effeithio ar eraill am oes. Gwrandewch ar adroddiad o noson penwythnos nodweddiadol gan Nyrs Adran Damweiniau, yn fan yma
Nid oes neb yn ceisio difetha鈥檆h hwyl na dweud na ddylech byth yfed ond dylai pawb, waeth beth fo'u hoedran ac a ydynt yn gallu 鈥渄al eu diod鈥 ai peidio, yfed yn gall bob amser.
Ond faint sy'n ddiogel? Bwriad y canllawiau yw nodi faint o alcohol gall rhywun ei yfed heb fod mewn perygl o niweidio eu hiechyd. Alcohol yn 么l cyfaint (ABV) yw'r ganran o alcohol yn y ddiod. Nid y terfyn ar gyfer yfed a gyrru yw hwn. Fe'ch cynghorir yn gryf i beidio yfed alcohol o gwbl cyn gyrru, gan gynnwys y noson cyn gyrru gan bod posibilrwydd y byddwch yn dal o dan ddylanwad alcohol y diwrnod wedyn.
Dylech osgoi alcohol yn llwyr os ydych yn feichiog neu'n cynllunio beichiogrwydd, os ydych mewn hinsoddau poeth iawn neu oer iawn, neu鈥檔 cymryd meddyginiaethau na ddylai gael eu cymysgu gydag alcohol neu os ydych yn dioddef o gyflyrau meddygol neu feddyliol a allai waethygu pe byddech yn cymryd alcohol.
Mae'r canllawiau dyddiol cyfredol ar gyfer dynion a menywod yw y dylech chi yfed dim mwy na 14 uned dros gyfnod o dri diwrnod neu fwy. Mae hyn yn cyfateb i botel a hanner o win dros gyfnod o wythnos. Mae hefyd yn well peidio 芒 "arbed hyd unedau" ac yn eu hyfed i gyd ar unwaith ac i sicrhau bod gennych o leiaf 2 ddiwrnod di-alcohol yr wythnos.
Mae gwahanol ddiodydd yn cynnwys gwahanol grynodiadau o alcohol yn 么l cyfaint:
Enghreifftiau |
ABV |
Fesur Safonol Tafarn / Maint can |
Unedau |
Gwin Coch a Gwyn |
12% |
Gwydr safonol 125ml |
1.5 |
Siampen |
12% |
Gwydr safonol 125ml |
1.5 |
Sieri |
17.5% |
50 ml |
1 |
Port |
20% |
50 ml |
1 |
Lager neu gwrw cryf iawn |
9% |
Can 500 ml |
4.5 |
Lager neu gwrw premiwm |
5% |
1 peint (568 ml) |
2.8 |
Lager / cwrw cryfder safonol |
3.5% |
1 peint (568 ml) |
2 |
Lager neu gwrw alcohol isel |
1% |
Can 275 ml |
录 |
Seidr cryf |
8.5% |
Can 500 ml |
4 |
Seidr arferol |
5% |
1 peint (568 ml) |
2.8 |
Gin / Fodca / Rym |
37.5% |
35 ml |
1.3 |
Whisgi / Bourbon / Brandi |
40% |
35 ml |
1.4 |
Os ydych chi鈥檔 yfed yn rheolaidd, cyfrifwch beth ydych yn ei yfed mewn wythnos. Os yw hi'n anodd cofio, cadwch gofnod dyddiol o'r holl ddiodydd, faint o unedau oedd ym mhob un, yr adegau o'r dydd a ble roeddech chi ar y pryd.
Os ydych chi am yfed llai, cynlluniwch ymlaen llaw ar gyfer diwrnod pan fydd yn haws osgoi alcohol neu sefyllfaoedd lle rydych yn gwybod y byddwch yn yfed mwy. Efallai y gallech ddweud wrth bobl eraill eich bod yn torri鈥檔 么l ar alcohol. Dylai hyn eu rhwystro rhag rhoi pwysau arnoch i yfed ac efallai y byddan nhw鈥檔 gwneud yr un fath 芒 chi. Ceisiwch ddweud pethau fel: 'Dim diolch, dw i wedi cael digon' neu 'mae gen i ddiwrnod prysur 鈥檉ory'.