Proffiliau Myfyrwyr
Stevie Fox
- Unwaith y gwnes i sylweddoli nad oedd dim o'i le â pheidio â gwybod pethau, a dod i delerau â'r ffaith fy mod i yn hÅ·n a derbyn nad oedd disgwyl i fi wybod beth ro'n i'n ei wneud, mi wnes i lwyddo i ymlacio a mwynhau'r holl brofiad o fod yn y Brifysgol.Â
- Fe wnes i sylweddoli gymaint yr o'n i'n hoffi'r myfyrwyr eraill ac fe wnaethon ni gyd-dynnu'n dda iawn.
- Roedd gen i'r sgiliau bywyd angenrheidiol i wybod fod angen gofyn pan nad ydw i'n gwybod rhywbeth. Fe wneith eich tiwtoriaid bopeth o fewn eu gallu i'ch cefnogi ac maen nhw'n wirioneddol falch os ydych chi'n gofyn am help.
- Fe wnes fwynhau bod yn Arweinydd Cyfoed yn arw, gan helpu i groesawu myfyrwyr newydd o bob oed a'u helpu i ymgartrefu.Â
- Cymerwch ran mewn cymaint o weithgareddau eraill ag y gallwch ar wahân i astudio. Mae yna glybiau a chymdeithasau ar gyfer popeth, a gallwch ymuno â nhw neu ddim ond cefnogi. Mae wastad rhywbeth yn digwydd yn rhywle ac mae'n eich helpu i wneud ffrindiau a bod yn rhan o gymuned y myfyrwyr.Â
- Cofiwch bob amser eich bod yn rhan o sefydliad rhyfeddol - manteisiwch i'r eithaf ar bob munud yno.Â
- Eich Prifysgol chi yw hi, a bydd yn brofiad a fydd yn aros gyda chi am weddill eich oes. Yn anad dim - MWYNHEWCH EICH HUNAIN.
Cewch ddarllen mwy am brofiad Stevie yma.
Judith Ainsworth
- Fe wnes i adael yr ysgol heb unrhyw gymwysterau ac yna yn 55 oed dechreuais ddilyn gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol.
- I ddechrau, ro'n i'n teimlo'n eithaf diaddysg ond mi wnes i sylweddoli'n fuan fod hynny oherwydd fy niffyg hyder fy hun.
- Y rhwystr pennaf oedd cyrraedd lefel academaidd ddigonol wrth ysgrifennu aseiniadau. Mi es i i'r 'Ysgol Ysgrifennu' i gael help nes fy mod yn hyderus yn fy ngallu fy hun.
- Roedd y radd yn fy ysbrydoli. Rwyf wedi synnu at y diddordebau newydd yr ydw i wedi'u cael a dwi'n bwriadu gwneud PhD yn seiliedig ar yr ymchwil dwi wedi ei wneud i hanes fy nheulu.
- Mae gradd yn llawer mwy na'r hyn sy'n cael ei nodi yn y prosbectws. Mae wedi ehangu fy ngorwelion mewn sawl ffordd ac rwyf wedi meithrin hunanhyder a hunan-barch.
- Fe wnaeth y myfyrwyr eraill fy nerbyn i fel unrhyw fyfyriwr arall ac ro'n i'n teimlo'n rhan go iawn o ddiwylliant y brifysgol.
- Roedd yn rhaid wrth waith caled ac ymrwymiad ond roedd yn werth chweil. Roedd yn brofiad rhyfeddol.
- Fe wnes i fwynhau pob munud ac ro'n i'n ddagreuol iawn pan orffennodd y cwrs.
Cewch ddarllen mwy am brofiad Judith yma.