Cefnogi Staff
Mae'r Cynghorwyr Iechyd Meddwl ar gael i dderbyn cyfeiriadau am fyfyrwyr y mae gennych bryderon yn eu cylch. Yn ogystal, rydym yn cefnogi eich darpariaeth les mewn colegau ac adrannau mewn amrywiaeth o ffyrdd.
- Os byddwch yn cyfeirio myfyriwr atom byddwn yn mynd ar ôl hynny.
- Cysylltu â chi a'ch ysgol.
- Rhoi cefnogaeth i golegau ac adrannau sy'n ymdopi â thrawma.
- Cyfle i drafod pryderon neu ofyn am arweiniad heb orfod datgelu manylion am fyfyriwr.
- Cyfarfodydd i drafod achosion brys.
Rhaid i staff academaidd, gweinyddol a chefnogol fod yn glir ynghylch eu sgiliau a'u swyddogaethau fel unigolion, a ffiniau'r hyn y gallant ei wneud.
Cofiwch na ddylech gadw pryderon difrifol am rywun arall i chi’ch hun.
Ymdrin ag Argyfwng Iechyd Meddwl.
Fel rhan o becyn lles cyffredinol i staff, mae’r Brifysgol yn darparu Gwasanaeth Cwnsela cyfrinachol a phroffesiynol i staff. Mae ar gael i’w holl weithwyr ac fe'i cynigir gan y CARE FIRST – Rhaglen Cymorth i Weithwyr.
Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
Ymddiriedolaeth Goffa Charlie Waller
Darperir y pecyn e-ddysgu hwn gan ac mae wedi ei gynllunio i roi'r sgiliau, y wybodaeth a'r hyder i staff nad ydynt yn arbenigwyr roi cefnogaeth gychwynnol i fyfyrwyr a all fod yn dioddef o broblemau iechyd meddwl. Fe'i hargymhellir yn arbennig i staff y Brifysgol sydd â chyfrifoldebau bugeiliol.
Wedi'i ddiweddaru 04.04.19