Cynllunio Teulu a Iechyd Rhywiol
Y Nyrs Iechyd Myfyrwyr sy鈥檔 ymwneud 芒 Chynllunio Teulu yn y Feddygfa, a bydd yn rhoi cyngor ar wahanol ddulliau o atal cenhedlu, rhoi cyflenwadau o鈥檙 bilsen atal cenhedlu, rhoi鈥檙 鈥渂ilsen bore trannoeth鈥 a gwneud profion ceg y groth. Gwnewch apwyntiad gyda鈥檙 Nyrs Iechyd Myfyrwyr ar 364492 os gwelwch yn dda.
Atal Cenhedlu Brys: Mae gan fyfyrwyr sydd angen y dull hwn o atal cenhedlu 72 awr i dderbyn triniaeth ar 么l cael cyfathrach rywiol ddiamddiffyn 鈥 gorau鈥檔 y byd po gyntaf.
Iechyd Rhywiol
Chwaraewch yn Ddiogel
Gall y dewis o gael rhyw ai peidio fod yn benderfyniad anodd ei wneud. Ond yn y pendraw mae hynny yngl欧n 芒 beth sy鈥檔 iawn i chi, a dim ond chi all ateb hynny.
Os ydych eich dau yn penderfynu eich bod eisiau cael rhyw, yna mae鈥檔 debyg y bydd y ddau ohonoch eisiau gostwng y risg o feichiogrwydd diangen a diogelu eich gilydd rhag heintiau rhywiol. Mae heintiau rhywiol yn gyffredin iawn, ond gall condoms, o鈥檜 defnyddio鈥檔 gywir, eich diogelu rhagddynt.
Bod 芒 Rheolaeth dros y Sefyllfa
Mae codi mater rhyw fwy diogel yn anodd ac nid oes atebion hawdd. Fel rheol, bod yn barod ac wedi鈥檆h paratoi yw鈥檙 cam cyntaf tuag at ryw fwy diogel. Nid yw hynny鈥檔 golygu y cewch lai o hwyl, nac ychwaith eich bod yn bwriadu cysgu o gwmpas. Dyma鈥檙 peth synhwyrol i鈥檞 wneud.
Felly os ydych yn debyg o fod mewn sefyllfa lle mae鈥檔 bosib y gwnewch chi gael rhyw, efallai ar 么l bod mewn parti, tafarn neu glwb 鈥 gwnewch yn si诺r bod gennych gondom. Mynegi eich bod eisiau defnyddio condom yw鈥檙 peth mwyaf anodd, ond efallai y cewch eich siomi ar yr ochr orau. Efallai y bydd eich partner yn ei chael hi鈥檙 un mor anodd ac yn croesawu鈥檙 arweiniad.
Byddwch yn Wyliadwrus
Mae alcohol (heb s么n am gyffuriau) yn gallu lleihau swildod a鈥檆h gwneud yn llai tebyg o ymatal. Efallai na fyddwch yn sylweddoli hynny, ond gall hyd yn oed ychydig o alcohol effeithio ar sut y byddwch yn ymddwyn, ac mae鈥檔 bosib i chi wneud rhywbeth y byddwch yn ei ddifaru鈥檔 ddiweddarach.
Beth am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol?
Ceir llawer o wahanol heintiau a drosglwyddir yn rhywiol; mae鈥檙 rhain yn cynnwys:
- Chlamydia
- Syffilis
- Herpes
- Dafadennau Gwenerol
- Gonorea (y 鈥榗lap鈥 ar lafar weithiau)
- Trichomonas vaginalis
- HIV
Y peth pwysicaf i鈥檞 sylweddoli am heintiau rhywiol yw y gall unrhyw un sy鈥檔 cael rhyw gael eu heintio; p鈥檜n ai eich bod yn hen neu鈥檔 ifanc, yn wrywaidd neu鈥檔 fenywaidd, yn str锚t, hoyw neu鈥檔 lesbiaidd.
Y newyddion da yw y gall y rhan fwyaf o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol gael eu trin yn gyflym ac yn rhwydd os y鈥檜 canfyddir yn ddigon cynnar. Ond gall rhai ohonynt beri problemau tymor hir, fel anffrwythlondeb i ferched, os y鈥檜 gadewir heb eu trin.
Lle i fynd i gael cymorth:
Gellwch fynd i un o鈥檙 canlynol:
- clinig iechyd rhywiol, a elwir fel arfer yn glinig STD neu GUM (mae鈥檙 un lleol yn Ysbyty Gwynedd; rhif cyswllt y clinig 01248 384054)
- Eich meddyg teulu
- Meddygfa Bodnant, Rhodfa Menai; galwch heibio neu rhowch alwad i 01248 364492.
- Profi a phostio: profi cartref am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI鈥檚)