Cyfrinachedd
Mae datganiad cyfrinachedd y Gwasanaeth Llesiant yn eich sicrhau bod yr wybodaeth a rannwch gyda ni’n ddiogel ac y caiff ei thrin yn gyfrinachol, heblaw am yr achlysuron prin isod.
Mae’r myfyrwyr sy'n defnyddio ein gwasanaeth yn aml yn bryderus am gyfrinachedd a'r mathau o gofnodion a gedwir. Gobeithiwn y bydd yr wybodaeth hon yn helpu egluro ein safbwynt a rhoi sicrwydd i chi. Os oes gennych unrhyw bryderon penodol, cysylltwch â'r gwasanaeth yn uniongyrchol: gwasanaethaulles@bangor.ac.uk
Rydym yn gweithio fel tîm o fewn y Gwasanaeth Llesiant, a’r nod yw cynnig y gefnogaeth orau bosibl i amrywiol faterion gwahanol sydd hefyd yn gallu bod yn gymhleth.
Mae'r Gwasanaeth Llesiant yn Aelod Sefydliadol o Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP) ac mae'n gweithio o fewn Fframwaith Moesegol y corff hwnnw i’r Proffesiynau Cwnsela.Â
Pan fyddwch yn siarad â’r Tîm Gwasanaeth Llesiant, caiff eich gwybodaeth ei thrin yn gyfrinachol.
Ni fydd dim sôn yn eich cofnodion na thrawsgrifiad eich gradd eich bod chi wedi cael cefnogaeth gennym ni. Ni chaiff gwybodaeth ei throsglwyddo i neb arall, gan gynnwys eich tiwtoriaid, eich rhieni, eich ffrindiau, nac unrhyw staff eraill yn y Brifysgol oni fyddwch yn rhoi caniatâd penodol inni wneud hynny, neu mewn amgylchiadau eithriadol iawn.
O bryd i’w gilydd, ac fel arfer gyda’ch caniatâd, efallai y byddwn yn trafod ffyrdd o’ch cefnogi gydag eraill yn y tîm, megis cydweithwyr sydd â gwybodaeth arbenigol neu arbenigedd. Gallai’r cydweithwyr hynny gynnwys Ymgynghorwyr Iechyd Meddwl, aelodau o'r Tîm Llesiant a Chefnogi Myfyrwyr, neu eraill.
Pryd y byddem o bosib yn siarad â rhywun amdanoch chi
Ar eich cais yn benodol
Mewn rhai achosion, efallai y byddech yn gofyn inni drosglwyddo gwybodaeth i rywun arall. Er enghraifft, os cawsoch brofedigaeth ac rydych yn poeni y gallai effeithio ar eich perfformiad mewn arholiad, efallai y bydd yn haws i'r staff drosglwyddo'r wybodaeth honno i'ch ysgol academaidd.
Lle mae unigolyn yn peri risg iddo’i hun neu i eraill
Os byddwch yn rhoi gwybodaeth inni sy’n awgrymu eich bod chi, neu rywun arall, mewn perygl o niwed gwirioneddol, byddwn fel arfer yn gofyn am eich caniatâd i gysylltu â rhywun a allai helpu.
Os yw’r amgylchiadau'n caniatáu, byddwn yn ceisio cysylltu â chi i drafod pethau, ac yn ddelfrydol byddwn yn cael eich cytundeb, ac yn eich hysbysu o'r hyn sy'n digwydd cyn torri cyfrinachedd. Ar adegau prin iawn efallai y bydd argyfwng lle nad yw’n bosibl neu’n briodol ceisio eich caniatâd cyn datgeliad o’r fath i’ch diogelu chi neu rywun arall.
Lle mae rhwymedigaeth gyfreithiol yn bodoli
O dan amgylchiadau eithriadol efallai y bydd yn ofynnol inni yn ôl y gyfraith ddatgelu gwybodaeth a byddem yn agored i weithdrefn sifil neu droseddol yn y llys pe na bai’r wybodaeth yn cael ei datgelu. Lle bo'n bosibl ac yn briodol byddwn yn ceisio cysylltu â chi i drafod y sefyllfa cyn gwneud datgeliad.
Os oes pryderon ynghylch addasrwydd i ymarfer neu astudio
O dan rai amgylchiadau eithriadol efallai y bydd gofyn inni ddatgelu gwybodaeth os yw hynny’n ymwneud â phryder ynghylch Addasrwydd i Ymarfer neu Addasrwydd i Astudio.
Mewn goruchwyliaeth
Fel un o ofynion eu proffesiwn, mae'n rhaid i Gwnselwyr, Seicotherapyddion Celf a Therapyddion Ymddygiad Gwybyddol (CBT) ymgymryd â goruchwyliaeth pan fyddant yn trafod eu gwaith gyda'u goruchwylydd. Mae'n ofynnol i oruchwylwyr gadw cyfrinachedd. Oherwydd bod yr oruchwyliaeth yn canolbwyntio ar waith y sawl a oruchwylir, does dim rhaid iddynt ddatgelu pwy ydych i'w goruchwylydd.
Data Personol
Rydych chi'n rhoi gwybodaeth bersonol inni pan fyddwch chi'n llenwi'r ffurflenni ymholiad hunanatgyfeirio a chofrestru, a gaiff ei storio ar gronfa ddata a ddiogelir gan gyfrinair ar weinydd rhithwir diogel y Brifysgol. Dim ond staff y Gwasanaeth Llesiant a gaiff weld y cofnodion. Defnyddir eich data personol i hwyluso’r prosesau gweinyddol yn unig, e.e. cysylltu â chi i drefnu apwyntiad ac yn y blaen, a'i defnyddio ar y cyd ac yn ddienw i gynhyrchu ystadegau am broffil cleientiaid y Gwasanaeth Llesiant.
Mae gan nifer cyfyngedig o staff y gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth fynediad at y gweinydd lle cedwir y gronfa ddata, ond unig bwrpas hynny yw gweinyddu'r system. Mae'r gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth yn sicrhau bod y gweinydd yn cael ei gynnal yn unol â’r arferion gorau o ran diogelwch.
Os oes gennych bryderon am brosesu eich data, gweler Polisi Diogelu Data’r Brifysgol (mewnosodwch y ddolen)
Mae ailbennu rhywedd yn nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydnabod Rhywedd 2004 a Deddf Cydraddoldeb 2010. Gall unrhyw wybodaeth a gawn gennych chi ynghylch statws rhywedd a hanes trawsnewid gael ei rhannu'n fewnol yn y Gwasanaeth Llesiant, ac ni chaiff ei datgelu i partïon allanol heb eich caniatâd penodol.
Cadw Cofnodion a Diogelu Data
Cedwir cofnod o’r gefnogaeth a gawsoch gan y Gwasanaeth Llesiant.
Mae Deddf y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) 2018 yn cefnogi’ch hawl i weld eich nodiadau. Cysylltwch â’r Gwasanaeth Llesiant i ofyn am wybodaeth am y broses.
- Adolygwyd a Diweddarwyd: 9 Medi 2024
- Dyddiad adolygu nesaf: 9 Medi 2025