Cwestiynau Cyffredin
Pryd byddaf yn cael fy amserlen/cerdyn llyfrgell/grant cyllid myfyrwyr?
Byddwch yn cael y rhain ar ôl i chi gofrestru, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau dau gam y broses gofrestru:
- cyflwyno'r ffurflen ar-lein
- cyflwyno eich dogfennau adnabod i'w gwirio
A fyddaf yn cael Bwrsariaeth Bangor?
Gwybodaeth a ddarparwyd eisoes i'r cwmni benthyciadau myfyrwyr sy'n pennu a ydych yn gymwys i gael bwrsariaeth. Os ydych yn gymwys, anfonir llythyr atoch ym mis Chwefror a chewch eich talu o 1 Mawrth.Â
At bwy ddylwn i fynd os bydd gen i broblem?
Mae eich tiwtor personol yn fan cychwyn da. Dylai fod un yn cael ei ddynodi i chi yn ystod y dyddiau cyntaf byddwch yn y brifysgol. Os nad oes, cysylltwch â gweinyddwr eich ysgol.
Fel arall gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cefnogi Myfyrwyr ar studentsupport@bangor.ac.uk am gyngor a gwybodaeth.
Pwy all fy helpu i ddod o hyd i swydd?
Bydd y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn gallu eich helpu i ddod o hyd i swydd ran-amser, diweddaru eich CV a pharatoi at gyfweliadau. Cysylltwch â nhw yn gyrfaoedd@bangor.ac.uk neu ewch i'w stondin heddiw.
Ble gallaf ddod o hyd i restr o weithgareddau Undeb y Myfyrwyr?
Edrychwch ar am fanylion neu galwch heibio i'w gweld ar y 4ydd llawr yn adeilad Pontio
Cofiwch
- y gallwch ddod o hyd i'r rhan fwyaf o wybodaeth y bydd arnoch ei hangen yn