Cyllido
Mae’n bwysig iawn i chi fel myfyriwr allu
rheoli’ch arian ac mae hefyd yn bwysig eich bod yn dechrau dysgu
clustnodi arian ar gyfer biliau, llyfrau, bwyd a phethau angenrheidiol
eraill er mwyn osgoi mynd i ormod o ddyled. Cofiwch mai mewn rhandaliadau
y byddwch yn cael eich arian yn ôl pob tebyg. Dyna pam ei bod yn
bwysig i chi gynllunio sut y byddwch yn gwario’ch arian. Dylai’r
arian eich cadw hyd ddiwedd y tymor.
Os ydych yn dod i brifysgol yn syth o’r ysgol neu goleg chweched
dosbarth, rydym yn eich cynghori i lunio cyllideb gyda’ch rhieni
gan fod angen iddynt fod yn ymwybodol o’r gwariant fydd gennych.
Dyma ffurflen cyllido gwag i’ch helpu
Dyma ffurflen cyllido gwag i’ch helpu (Excel)
Os ydych angen help i gyllido neu gyngor ar sut i reoli eich arian, cysylltwch gyda’n Ymgynghorydd Ariannol.
Syniadau da am wneud i'ch arian bara:
- Treuliwch amser yn cynllunio
- Rhestrwch eich gwario hanfodol
- Cadwch gofnod o bopeth ydych yn wario - mae hyn yn help i nodi patrymau gwario rheolaidd/achlysurol
- Cynlluniwch ar gyfer gwariant ychwanegol megis costau dechrau blwyddyn / achlysuron arbennig /pen-blwydd teuluol etc.
- Talwch am gymaint ag y medrwch pan gewch eich Benthyciad Myfyriwr, megis rhent am y semester cyfan, ffioedd dysgu a biliau.
- Prynwch bethau fel llyfrau yn ail law
- Cofiwch y llyfrgell, does dim rhaid i chi brynu pob llyfr ar eich rhestr
ddarllen.
- Cofiwch eich cardiau gostyngiad myfyrwyr
- Agorwch gyfrif banc myfyriwr os nad oes gennych un yn barod
- Os oes raid i chi fenthyca arian, yna defnyddiwch gyfleusterau gorddrafft
am ddim yn unig ond peidiwch ag mynd dros derfyn eich gorddrafft heb ganiatâd.
- Osgoi defnyddio cardiau credyd a chardiau siopau
Mae gan bob myfyriwr fynediad i gwrs Dysgu Agored yr Academi Arian a ddatblygwyd gan MoneySavingExpert Martin Lewis a'r Brifysgol Agored.
Mae'r cyfle hyfforddi hwn yn darparu hyd at 12 awr o wybodaeth ac yn cynnig ardystiad ar ôl ei gwblhau
Ewch at y cwrs yma: